Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cynnyrch gŵr sy'n ymwybodol o'i henaint yw "Ugain o Gerddi." Llwythir llawer ohonynt gan gasineb at angau ac at yr orfod- acth o heneiddio. A'r cerddi hyn yw'r gorau yn y llyfr. Eto ychydig o frwdfrydedd y bardd a gyfansoddodd "Y Ddinas" sydd ar ôl, y gŵr ifanc a greodd dan ysfa nerthol. Nid wyf am fod yn greulon wrth haeru fod Parry-Williams wedi dirywio trwy gilio rhag Y Ddinas. Coeliaf fod lle i fyfïaeth ac unigol- yddiaeth. Eithr wrth gau allan broblemau cyfoes neu gyíathrach cymdeithasol, hynny yw, heb dyfu i aeddfedrwydd gŵr cyflawn, tuedd bardd yw dadfeilio. Heblaw'r llawer o brydyddu diawen, nid yw crefft y llyfr yn hollol foddhaol. Ceir cryn lawer o eiriau llanw. Fe all hynny fod yn cffeithiol ambell waith, a rhoi gwedd lafar ar gerdd: A phwy sy'n trigo'n y fangre, dwedwch i mi. Pwy ond gwchilion o boblach? Peidiwch, da chwi, Eithr diffyg cynildeb sy'n cyfrif am: 'Rwyf wedi alaru ers talm wrth glywed grŵn Y Cymry, bondigrybwyll, yn cadw swn. neu'r "meddaf i chwi" ac "os-gwn-i" yr hyn a gawn yn rhy fynych. Caiff beth trafferth gyda'r odlau hefyd (y mae "dyn" ac "un" yn odli bump o weith- iau ) a theimlir ei fod yn chwilio am odl a chael mwdl. Fe all hyn hefyd fod yn effethiol, fel parodi o'r rhigymau poblogaidd. Cofiwn yn "Lloffion": Tynnodd ei bibell yn blwmp o'i geg CYFIEITHIADAU TIIE MABINOGION: A new translation with an introduction by Gwyn joues and Thomas Jones. Everyman's Library, No. 97. Tt. xxxiv + 282. 4/6. Ymhlith y llyfrau o'm heiddo sydd yn neill- tuol o werthfawr i mi y mae copi o 'The Mab- inogion' yr Arglwyddes Charlotte Guest yn argraffiad quaritch 1877. Ar y dudalen fIrynt ceir, yn ysgrifen fy nhad, fy enw a'r dyddiad, "Epworth, July 27th, 1892." Yr oeddwn ar Ar y stryd fore Llun tuag un ar ddcg. Ond gwael yw: Am stelc i athronyddu wrth dwtio'n plu, A siawns i fyfyrio ar neges y môr a'i ru. Neu: Ond beth pctai'r Cyngor hwn ryw fore dydd Llua Yn bwrw diepiledd ar deulu Dyn ac yn y blaen. Sbwyliwyd soned addawol "Brenin Dych- ryniadau" wrth beidio â chymryd chwaeth 0 ddifri, ac felly'r rhigymau i gyd. Nid yw llenydda'n golygu digon bcllach i Pairy Williams i ni ei gyfrif, fel y gwnaeth W. J. Gruffydd unwaith, yn "major poet." Siom yw'r llyfr a ddisgwylid y byddai'n ddigwydd- iad cyfoethog yn hanes ein llenyddiaeth. Awgrymodd T. Glynne Davies mai chware ag ef ei hun yn deimladwy a wna'r awdur. Ymysg yr ugain, un yn unig, sef "Iczebel" sy'n deilwng o Parry-Williams ar ei orau. Ni ddywedaf amdani namyn diolch mewn parch am y cywreinder ffurf a'r ünplygrwydd teimlad. Y mae'r gyfrol yn ddrud (a siarad am ei gwneuthuriad), ac ofnaf fod peth o'r bai ar yr awdur. 'Does gennyf ddim yn bersonol yn ei erbyn. Ni siaredais i ag ef erioeù. Ond ofnaf fod rhaid i mi ei feio am gyhoeddi cyf- rol mor deneu rhwng y cloriau caled. Bellach aeth cyfrolau main o farddoniaeth yn ffasiwn. Hyderaf y ceidw ein storiwyr i gyhoeddi cyf- rolau cynhwysfawr o fewn cyrraedd poced eu darllenwyr. BOBI JONES y pryd rhwng deuddeg a thri-ar-ddeg oed, ona cofiaf eto yn dda yr hyfrydwch a gefais with ddarllen y storiau. Cwympais mewn cariad a Blodeuwedd, doluriais uwchben gofidiau Branwen, dotiais ar Olwen, dilynais Arthur a'i wyr yn hela'r Twrch Trwyth, dychmygais