Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fydryddol bu gofynion mesur a mydr ac odi yn gaeth arno, a'i oriodi'n aml i lenwi'r bylchau â geiriau llanw go garbwl a di-ystyr, e.e. Despite transgression's deluge O'erflowing man and clod. (9) (Er gwaethaf dilyw pechod A llygredd o bob rhyw). But beside the Seat of Mercy, There he seems at perfect ease. (23) (Ond ym mhabell y cyfarfod, Mae Ef yno'n llawn o hedd). Golden girdle of true friendship. (31) (Gwregys euriad o ffyddlondeb). Nid collfarnu'r cyfieithydd a wnaf yn gym- aint yma â dangos mor anodd, mor amhosibl yn wir, yw cadw at fydr y gwreiddiol heb ab- erthu cryn lawer. Gwaeth efallai na'r pethau hyn yw'r ymad- roddion sy'n ddieithr i ysbryd emyn, e.e. "protection against loss." (10); "based by God upon the Cross" (10); "God crushed m\ Sin" (16); "Highly worthy to be worsh:pped' (18); "In the breach between the forces" (21); "Mere acceptance of the teaching spells destruction to a Sinner" (22); Gellir dadlau, mi wn, fod rhai o'r ymadroddion hyn yn dros- iadau llythrennol o'r gwreiddiol, ond cofiei nad ystyr eiriadurol gair yn unig sy'n bwysig ond ei gysylltiadau, a'r math o ddefnyddio sydd arno. Aber Dâr DAWNS WERIN HERE WE COME DANCING. Six original dances on Scottish airs on the village Green, wedi eu trefnu gan Una Wallace. Gwasg William Maclellan. Pns 5/- yr un. Tri llyfr gwerthfawr iawn i ysgolion a dos- barthiadau sy'n ymarfer â dysgu dawnsio yw y rhain. Ysywaeth, ychydig o ysgolion a geir yng Nghymru, a llai fyth yw nifer y dosbarthiadau sy'n hyfforddi plant a phobl ieuainc yn y gwaith hwr Wedi Eisteddfod Gydwladol Llangollen eleni a'r wledd a gafwyd yno o weld y ddawns werin yn cael ei chyflwync mor brydferth a chelfydd gan bartion ieuainc y cyfandir, ond odid na chawn pinnau'r Ar wahan i hyn, bu'r cyfieithydd yn bur ddiofal yn ei grefft yn ami, e.c. deinyddii gciriau fel clear, pure, fire, years ganddo fel geiriau deusill (fei y bydd Cymry yn íynych yn eu seinio wrth siarad Saesneg) ac ysgrifen- nodd 'transcient' ac 'executers' am 'transient ac 'executors.' Ymhlith emynau Ann Griffiths cynhwysoda un emyn "Dyíroedd tawel, byw, rhedegog," a briodoLr yn gyffredin bellach i Nathaniei Williams, Llanwnio (1742—1826). Gorchwyl hawdd, mi wn, yw chwilio bai ar waith fel hwn, lle nid oedd obaith i neb lawn lwyddo. Ond barnaf fod y cyfieithydd eiso.s wedi derbyn ei wobr a mwy wrth fyfyrio o'i newydd uwchben yr emynau gogoneddus hyn. Mi wn am ambell un yng Nghymru nad yw'n ddigon hyddysg yn ein hiaith i ddilyn emynau A. G. yn iawn, a gawsai fudd wrth ddarllen y trosiadau hyn ochr yn ochr â'r emynau gwreiddiol. Carwn innau derfynu trwy roddi un engh- raifft o waith y cyfieithydd ar ei orau: ("O am gael ffydd i edrych .) O for a faith to ponder With angels far above, Upon the way of mercy, The mystery of love. Two natures in One Person, United now to be- Distinct in their perfection- Unmixed etornally. Gwilym R. Tilsley. Cymry ysbrydiaeth i a adfer yr hen ac y cawn gwerin a berthyn i ni, ac y cawn fynd vn ôl i'r "hen dwmpath chwarae" iach unwaith eto i weld plant a phobl ieuainc yn eu mwynhau eu hunain, yn gyplau a grwpiau, yn dawnsio yr hen ffigurau prydferth i fiwsig yr hen alawon Cymreig. Y llynedd cynhaliwyd gŵyl fawr yng Nghaeredin o dan nawdd Cymdeithas Lên Gwerin yr Alban a Chyngor Celfyddydau Prydain Fawr, a chafwyd enghreifftiau yno o