Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ddawnsiau gwerin Lloegr, yr Alban, Iwerddon, Ynys Manaw, Shetland a Chymru. Bu'r ŵyl hon yn wers fawr i Gymru. Dysgwyd yno mor bwysig yw adfer yr hen ddawnsio a'r hen ganu traddodiadol sy'n gynhysgaeth i'r gwledydd Ceitaidd, a chymaint ar y blaen i Gymru y mae'r gwledydd eraill yn y diwyll- iant gwerin hwn. Y mae rhai o'r hen ddawnsiau traddodiadol i'w cael bellach, megis 'dawnsiau Llanofer a Llangadfan' a 'Chadi Ha', a'r angen mwyaf ar hyn o bryd yw'r angen am hyfforddwyr cym- wys a ffurfio dosbarthiadau. Nid dawnsiau gwerin traddodiadol a geir yn y llyfrau uchod, ond y maent yn werthfawr dros ben fel ymarferiadau syml i ddosbarth- iadau ac ysgolion. Cynnwys y cyntaf bum dawns feimio i'r Bodffari. DRAMA LLADD WRTH YR ALLOR. Cyfieithiad i'r Gymraeg o "Murder in the Cathedral" (T. S. Eliot), gan Thomas Parry. Llyfrau'r Dryw, Llandybie. 6/ Dyma lyfr llachar fel Coeden Nadolig. Cyfieithiad ydyw, ond nid oes raid inni gywilyddio oherwydd hynny na dirmygu 11unio cyfieithiadau fel y gwna llawer o'n beirniaid heddiw. Defnyddiodd rhai o'r beirdd mwyaf megis Catulius a Shelley y dull hwn er mwyn gwella eu techneg eu hunain. Gall poblogrwydd cyfieithu yn am, fod yn arwydd o lenyddiaeth fyw egnïol, fel yng nghyfnod gwladwriaeth Rhufain ac yn Lloegr yn Oes Elizabeth a Rwsia yn y cyfnod c\*n Pwshkin. Gall unrhyw fardd sydd â rhywfaint o feddwl o'i gelfyddyd edrych dros y ffin am ddulliau newydd a cheisio'u cymhwyso a'u cyfaddasu i'w famiaith. Yn ein cyfnod ni, yn Lloegr, cafodd cyfieithiadau godidog J. B. Leishman o weithiau Rilke ddylanwad arbennig ar y to ifanc o feirdd, ac y mae lle i gredu ac i obeithio y gall cyfieithiadau diweddar gan W. J. Gruif- ydd, Cynan a Thomas Parry o ddramâu Saes- neg gael dylanwad a fydd yr un mor effeithiol ar ein dramodwyr a'n beirdd ninnau. Troedio llwybrau gwahanol a fu hanes y ddrama a barddoniaeth ers marwolaeth Shakespeare. Llwyddodd ef a rhai o'i gyfoes- wyr i wneud barddoniaeth y chwaraedy yn plant lleiaf. Y mae'r testunau'n dda ac o fyd y plentyn, e.e. 'Going to School', 'Out of the Rabbit hole'. Dawnsiau syml a geir yn y ddau arall hefyd ­-cllwech ym mhob un. Y mae'r testunau'n swynol, a phob dawns wedi ei chynllunio'n brydferth mewn ffigurau á symudiadau natur- iol. Dangosir y ffigurau a'r symudiadau ar un ochr i'r ddalen a rhoddir y cyfarwyddiadau yn llawn ar yr ochr arall. Gyda phob llyfr ceir llyfryn baçh fel ychwanegiad sy'n cynnwys y gerddoriaeth ar gyfer pob dawns, wedi eu trefnu'n dda gan Alma Richardson. Y mae'r tri yn daclus dros ben ac yn werth y pres. Gresyn na cheir mwy o drefniadau tebyg yn Gymraeg. EMRYS CLEAVER. ystwyth a naturiol, fel iaith lafar ei gyfnod gan wau rhithm ac idiom ei oes i mewn i gynganeddion cymhleth King Lear, Y Temp- est ac Antony a Cleopatra. Barddoniaeth a gyfansoddwyd i'w hadrodd a'i hactio, a'i dehongli yn hytrach na'i darllen oedd hon. Wedi hyn, hyd at ein cyfnod ni, rhyddiai:h o�dd hoff gyfrwng ein dramodwyr-Congreve, Sheridan, Goldsmith, Wilde a Shaw. Llef un yn llefain yn y diffeithwch, megis, oedd y dramodydd o fardd, oni ddeallai dechneg a sylweddoli i'r byw gyfleusterau'r theatr. Rhaid oedd pontio'r gagendor rhwng awdur a chynulleidfa os oedd y ddrama farddonol i'w hachub. Gwnaed sawl ymgais aflwyddiannus 'i ad- fywio'r ddrama farddonol rhwn� y ddau ryfel. Yna yn 1935 cyhoeddwyd "Murder in the Cath- edral" ac yn 1939 gan yr un awdur "The Family Reunion". Yr oedd llwyddiant anarfcr- ol i'r gyntaf. Fe'i cynhyrchwyd gyntaf yn Eglwys Gadeiriol Caergaint, ac o Dachwedd 1935 hyd Ebrill 1938 rhoddwyd dros 300 o ber- fîormiadau. Chwaraewyd hi yn Llundain a din- asoedd eraill, mewn tref a phentref, mewn eg- lwys a chapel a chwaraedy. Ni chafodd unrhyw