Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

hwyr rhy hwyr a mall yw'r tymor. Drygionus y gwynt, chwerw y mor, llwyd yr wybren, llwyd llwyd llwyd. O Domas, dychwel, Archesgob; dychwel, dychwel i Ffrainc. Dychwel. Ar frys. Yn ddistaw. Gad inni farw mewn hedd. Deui â mawr groeso, deui â gorfoledd, oncT deui ag angau i Gaergaint. Barn ar y ty, barn arnat tithau, barn ar y byd. Ac y mae'n medru codi i dir uchel fel yn y llinellau a ganlyn, llinellau sydd yn sicr o ddenu darllenwyr newydd i Eliot ac i'r ddrama Gymraeg: Ewch i eigionau'r Gogledd lle y mae'r rhew A'r anadl marw'n fferru'r llaw, yn pylu'r bryd. Chwiliwch am lannerch las mewn anial dir, Ewch, cyfeillachwch â'r Sarasin di-dduw, Profwch o'r grefydd aflan, cipiwch awr O ebargofiant yn ei nwydus lys, O angof ger y ffynnon dan y palmwydd Rhosllannerchrugog. NI DDERFYDD AMSER, gan David Monger. Llyfrau'r Dryw. 3/6. Yn y ddrama hon gwelwn awdur a gafodd naturioldeb ein llwyfan fodern yn annigonol i'w uchelgais ddramatig yn cynnig torri con- fensiwn y "pedair gwal" trwy arfer techneg sy'n ddieithr iddi. Mae gan ddramawr bob rhyddid i gyflawni'r cyfryw gynnig, ond y mae'n fenter sy'n llawn peryglon. Oni bo graen ac argyhoeddiad yn canlyn y dechneg newydd mae'r ddrama'n rhwym o droi'n fethiant. A lwyddodd David Monger yn ei "Ni Dderfydd Amser"? Ystyriwn yn gyntaf thema'r ddrama ac ych- ydig o'i phlot. Cred Tom Morgan fod Cydfodol- aeth a Chyd-ddigwyddiad yn elfeanau sy'n ffeithiau ym mywyd y ddynoliaeth. At hyn cred mai Cristionogaeth yw'r unig eli at holl glwyf- au dyn. Yn 1938 ceisiodd grynhoi ei syniadau ar lun llyfr ond tarfodd rhyfel 1939 ar ei ymdrechion i gwplau'r llyfr. Ail-afaelodd yn y gwaith yn 1945 ar ôl íddo gymryd arno ei fod yn wallgof a'i gael ei hun yn rhydd o afael yr awdurdodau milwrol. A gwelir ar y Neu ewch i segur stelcian draw yn Ffrainc. Argraffwyd y ddrama yn ddymunol iawn ar bapur da ac am bris rhesymol, ond y mae ychydig o wallau orgaff fel "wei" am "wedi"; "cynnwr" am "cynnwrf;" a sylwaf hefyd i "Seven years we have lived quietly" gael ei gyfieithu yn "Wyth mlynedd digyffro a gaw- som Rhoes y trosiad gwerthfawr hwn bleser mawr i mi, ac os oes dinygion—ac ni bu yr un cyfieithiad eto heb y rheini-eto erys Eliot. Mae gofyn beiddgarwch a hir amynedd i gyfieithu drama fel "Lladd wrth yr Allor" yn effeithiol, a chan iddi gael ei hysgrifennu i'r llwyfan, da ydyw gweled mor addas yw'r trosiad Cymraeg yntau at y llwyfan. Gobeithiwn yn fawr na fydd llafur caled Mr. Parry yn gorffen â'r gwaith hwn, ac v bydd yn defnyddio ei ddawn arbennig, fel bardd a llenor ac fel un yn caru'r ddrama a'r llwyfan, i agor llwybr i Wanwyn o ddramâu Cymraeg. Mawr ydyw ein dyled ni, fel actorion a gwrandawyr, iddo ef ac eraill. Raymond Edwards Cyfaddaswyd gan Dewi Llwyd Jones. llwyfan ddigwyddiadau 1945 yn cyd-afael, yn cyd-fodoli ac yn cyd-ddigwydd â'r hyn a ddigwyddodd yn 1938. Gwelwn yn ystod rhediad y ddrama gymeriadau a fu farw yn 1938 yn cymryd rhan flaenllaw, fyw ym mywyd Tom Morgan. Daw'r meirwon hyn i ymgom ag ef cyn iddo farw ac wedi iddo farw, gan brofi-yn ôl plot "Ni Dderfydd Amser"—fod y syniadau a gredai Tom ynddynt yn ffeithiau di-droi'n-ôl. Ar unwaith fe wêl y sawl sy'n gyfarwyd â chrefft y llwyfan y rhaid wrth ddwy arddull i chwarae'r ddrama hon ac y cyfyd hi brob.- lemau tra diddorol i chwaryddion a chyn- hyrchydd effro. 0 dir realaeth i fyd anghyffwrdd yr annaearolion—mae argyhoeddi cynulliad fod cyd-fodolaeth i'w gael rhyng- ddynt yn gofyn am grefft ddramatig fedrus dros ben oddi wrth ddramâwr a chwaryddion Gall y dramâwr golli gafael yn awenau ei blot yn rhwydd ddigon, a dyna ei ddrama'n rhuthro'n bendramwnwgl i dywyllwch a