Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ddisgwyl oddi wrth gymeriadau melodrama, mae pob cymeriad yn "Ni Dderfydd Amser" yn ddiddorol dros ben. Braidd yn anwastad yw ei gwead hi, yn dynn a chynnil gan amlaf ond yn llac, llac ar brydiau. Ac er bod lle i gynilo ar ddialog ambell olygfa y mae'r ddialog trwy'r ddrama yn raenus iawn ac yn codi i safon HANES LLEOL HANES PONTARDDULAIS. Gol. E. Lewis Evans. Gwasg Gomer. 5/ Cynnal Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mhontarddulais a barodd i'r Pwyllgor Llên gyhoeddi'r llyfryn diddorol hwn, a ben- dith ar eu pen am feddwl am y peth. Cipdrem ydyw ar hanes dau blwyf, Llacdeilo Talybont a Llanedi. Fe'i paratowyd ar sail gwybodaeth a gasglwyd oddi ar gof a llawysgrif a llyfr gan nifer o wŷr llengar y cylch. Golygwyd y cyfan yn ofalus gan y Parch. E. Lewis Evans, hanesvdd profiadol. Ef, mae'n debyg. a ysgrifennodd bedair pennod ar ddeg o'r ddwy ar bymtheg a gynnwys y llyfr. Er mor gelfydd y bu Mr. Evans yn "cymharu a nithio, llanw* a thocio," nid oedd disgwyl iddo allu celu'n llwyr fod llawer o weithwyr wedi bod yn hel defnyddiau, a'r rheini, rhaid cyfaddef, braidd yn amryfal ac anwastad eu doniau. Mae penodau fel yr eiddo Mr. Wynne Lloyd ar y cefndir daearyddol, a rhai o'r lleill lle y bu'r golygydd ac ysgolheigion proliadol wrth; gellid tybio, dipyn yn aeddfetach a thaclusach nag eraill. Gwnaed ymdrech deg i draethu hanes y ddau blwyf o'r cychwyn cyntaf, ac i fwrw golwg dros bob agwedd ar fywyd y cylch. Bid siŵr, y mae hanes y ganrif a hanner ers tua 1800 yn llawnach o lawer na holl hanes y canrifoedd blaenorol at ei gilydd, gan fod y defnyddiau'n helaethach a diddordeb darllenwyr yn fwy. Ond er cydnabod prinder defnyddiau, o'r braidd yr oedd cyn lleicd ohonynt fel yr oedd raid hwbian holl hanes y cyfnod cyn diwedd y ddeunawfed ganrif i dair pennod ddigon tenau, ac eithrio rhyw fras gyfeiriadau eraill yn y penodau ar hanes crcfydd. Dim ond wrth frysio heibio y dywedir wrthym i ba gwmwd y perthynai'r naill blwyf a'r llall (yn wir, Coleg Abertawe. ganmoladwy o bryd i'w gilydd. Cyficithiwyd hi'n dda i Gymraeg rhwydd a llyfn ac yn sicr gall llawer o'n cwmniau drama ei chwarae er budd iddynt eu hunain ac fel cyfle i ehangu safon feirniadol ein cyn- ulliadau. George Davies sonnir am "gantrefi" Gŵyr a Charnwyllion,- cymydau oeddynt). Ni chrybwyllir gair naill ai pa bryd na pha fodd y dacth y Normaniaid i'r cylch, na hyd yn oed i ba urdd y perthynai mynaich Cwrt-y-carnau. Nid y 'Catalogue of Star Chamber Proceedings' chwaith yw'r unig Ifynhonnell brintiedig o'r math lle y ceir cyfeiriadau at y ddau blwyf. Gellid hefyd helaethu rhestr offeiriaid y ddau blwyf trwy chwilio tudalennau cofrestri printiedig Ty- ddewi. Gallesid, mi gredaf, fod wedi talu mwy o sylw i bethau o'r math ar draul llawer o'r catalogeiddio a geir yn rhai o'r penodau diweddarach. Cefais hwyl a mwynhad wrth wrando Cẁmni Drama'r Bont, ond braidd yn haerllug yw eu cymharu â'r "prydyddion gynt", ac yn enwedig led-awgrymu eu bod yn rhagori ar y beirdd gan nad oes "rhaid iddynt wrth weniaith." Gwendid y llyfr, hyd y gwelais i, oedd diffyg cymesuredd a phers- pcctif. Fodd bynnag, dengar tu hwnt yw'r portread o'r gymdeithas ddiweddar. Dyma ddatblyg- iad cvmdeithas ddiwylliannol Gymre:g o din y meicroscôp fel petai, cymdeithas â'i hadnoddau cynhenid yn ddigon cryf a bywiog i Gymreig- vddio'r dyfodiaid hyd at yn gymharol ddiweddar. Diwylliant gwerinol, anghyd- ffurfiol. ydoedd, a feithrinwyd gan "reddf yr aelwyd a thraddodiad y cysegr". GTesyn meddwl fod rhyfeloedd yr ugeinfed ganrif wedi llygru'r etifeddiaeth hon fel mai'r "duedd bellach yw dat-Gymreigio'r Cymry." Mae'n siŵr gennyf fi y bydd yn dda gan y neb a fu mewn cvfathrach â phobl radlon a charuaidd "v Bont" droi at y gyfrol fechan hon am fwy o hanes yr ardal, ac yn arbennig am fwy o'i "chlecs", chwedl gwŷr Morgannwg. GLANMOR WILLIAMS.