Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HUNANGOFIANT DET.HOLIAD O "HUNANGOFIANT GWEIRYDD AP RHYS" gan Enid P. Roberts. Y Clwb Llyfrau Cymraeg. Rhifyn Dwbl. Tt. 191, 1949. 5/ Yn sicr ddigon, detholiad hynod o ddoeth yw hwn, wedi ei wneud ag amgyffred clir o'r hyn sy'n bwysig a'r hyn sy'n ddarllenadwy yn yr hanes. Gweddol hawdd fyddai cyfansoddi "bywyd" Gweirydd ap Rhys, gan ddeínyddio'r geiriau a'r arddull a hoffai'r cyfansoddwr, a haws byth fyddai cyfansoddi beirniadaeth o'i waith. Ond yr hyn a ddewisodd Miss Roberts oedd golygu gwaith dyn arall, gan ei gaboli a'i gywiro yn y fath bethau â sillafu ac atalnodi a defnyddio'r pwyntil glas yma ac acw, ac os cofiaf yn iawn, yr oedd digon 0 waith i'r pwyn- til glas a'r un coch yn rhai o ysgrifau'r hen Gweirydd, oblegid nid oedd blewyn ar ei dafod nac ofn un gŵr ganddo. Yn y llythyrau a ddarllenais i yr oedd ambell air na cheir mohonynt hyd yn oed yng Ngeiriadur yr hen law. Ysgrifennodd lythyr at ei fab Golyddan i'w gysuro am golli'r wobr yn Eisteddfod Dinbych, ac yr oedd hwnnw'n gampwaith o ryddiaith erlidgar a dial a chasineb yn diferu oddi ar bob gair. Tynnu llinell derfyn mewn pethau fel hyn a wnaeth Miss Roberts â lledneisrwydd rhyfedd, gan ddangos yn eglur ei bod yn deall chwaeth y cyhoedd yn drwyadl. Dywedodd rhywun ryw dro nad oes dim yn fwy diddorol na hunangofiant diledryw, a gwireddir y gair yn y llyfr hwn. Ond credaf mai arall fyddai'r stori onibai am waith y golygydd yn nithio'r miloedd o eiriau a ysgrifennodd Gweir- ydd mewn deuddeg llyfr trwchus mewn llawysgrif fras frysiog. "Gŵr Teulu" oedd Gweirydd, fel, yn ,wir ei ddisgynyddion heddiw, ac er ei aml ddiddordebau, ei hanes ei hun mewn perthynas â'i deulu a welai ef yn bwysig gan mwyaf, ac cs dymuna rhywun daflu ei waith llenyddol ar drugaredd y cyhoedd, nid oes lawer o obaith am Iwyddiant iddo os na cheir mwy na hanes poen-cefn y wraig a diffyg-treuliad y plentyn hwn a dannodd v plentyn arall. Tueddu i wneud hvn yr oedd Gweirydd ap Rhys, ac i Miss Roberts y mae ein dyled am gael ein harbed rhag baich poenau a chlwyfau ei dy1- wyth. Fel y saif yr "Hunangofiant" yn awr wedi'r dethol a'r dewis arweinir y darllenydd yn ddifyr ymlaen o un hanesyn "teuluol" i'r llall, ac i fwynhau ambell dusw ar ochr y llwybr wrth fynd o'r caru i'r priodi ac o'r pn- odi i eni plant. Pe cawsai Gweirydd fyw, nid oes wybod lle y terfynai'r stori am dano'i hun a'i deulu, gan iddo eisoes ddechrau ar hanes un o'i feibion, Golyddan, ac yr oedd ganddo ddigon o ddefnydd yn hanes un o'i íerched, Buddug a ysgrifennodd eiriau'r gan "О na byddai'n haf o hyd." Gyda llaw, gan fod Miss Roberts wedi cynnwys yr hanes byr am Golyddan a ysgrifennwyd gan Gweirydd, tcimlaf mai trucni yw na fuasai wedi cynnwys llythyr neu ddau o eiddo Gweirydd ar achlysur methiant Golydd- an yn Eisteddfod Dinbych â'i awdl Tesu.' Os cofiaf yn iawn cyhoeddodd Gweirydd gylch- grawn yr adeg honno, yn yr hwn vr arferai faeddu a beirniadu'r bcirniaid yn ddidrugaredd a buasai tamaid neu ddau o hwn yn ddigon blasus. Beth yw gwerth y llyfr? Wel, y mae ynddo ddarlun byw a manwl o fywyd Cymreig hanner olaf y ganrif ddiwethaf, a llawer o'r manylion hynny'n hollol anhysbys i'r mwyafrif ohonom. Heb ei hobi π hel gwybodaeth gŵr cyffredin oedd Gweirydd ap Rhys, gwas ffarm, a gwehydd, ond cymeriadau fel hyn yw'r rhan fwyaf ohonom ni'r Cymry. Diddorol yw cael gw\bod beth oedd rhan a chyflwr ein teidiau, a rhyfeddu wrth sylweddoli mor fychan ac mor syml oedd eu breintiau o'u cymharu â'r hyn a fynnwn ni i'n difyrru. Gwaith a seiat, pregeth a chymanfa, dyna derfynau eu bywyd, a phwy a wad nad oedd yn fvwvd llawn. Rhy fyr ei oriau oedd pob dydd i Gweirydd, beth bynnag, gan gymaint a oedd i'w wneud. Dyma i chwi gip ar drefn ac arfer cymdeithas hefyd. Wele berson plwy a'r wardeiniaid yn gvfrîfol am y tlodion a'r amddifaid, ac yn rhwym i anfon v rhai a âi'n ddiamgeledd yn eu plwy hwy yn ôl i blwy eu genedigaeth neu eu cartref olaf i fod yn dreth ar eu cyn-gyd- blwyfolion. Dyma anfon plant amddifaid yn chwech oed i ffermdai a ffatrioedd i weithio'n