Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ddi-dâl. Rhyfedd, gyda llaw, i Weirydd fod yn amddifad, ac i un o'i ferched, Graci, gyda'i gŵr gadw cartref i blant amddiíaid yn y tloty a oedd dan eu gofal. Dyma ichwi heíyd olwg ar drafnidiaeth wledig, a mcrched bonheddig yn marchogaeth merlyn yn ysgil un o'r gweision. Pwy, yn y dyddiau hyn, a ireudd- wydiai am hysbysu swyddogion ei gapel ei fod yn bwriadu cyfeillachu â merch ifanc? Yr oedd yn rhaid i Weirydd wneud hynny yn ei ddydd ef, a mawr oedd ei fraw pan awgrymwyd iddo mai ym mhulpud y capel y câi fynd i garu ei fun, ar noson waith. Gwr oedd Gweirydd a gychwynnodd dan anawsterau difrifol, ond a daniwyd gan awydd am wybodaeth ac aeth rhagddo i hel hynnv a fedrai o ddysg—hanes, daearyddiaeth, cerddor- iaeth, llenyddiaeth, Lladin a Groeg, yn wir unrhyw bwnc a ddeuai o fewn ei gyrraedd. Bu ei lwvddiant yn rhyfedd, ac fel v dywed amdano'i hun, "ni chafodd anhawster anorfod Llantysilio NOFELAU Y NOFEL. Datblygiad y Nofel Gymraeg ar ôl Daniel Owen, gan Dafydd Jenkins. Caerdydd: Llyfrau'r Castell, Tt. 43. 1948. Ebe'r Pregethwr: "Nid oes diben ar wneu- thur llyfrau lawer"; a diau i lawer darllenydd llai miniog ei ymadrodd gredu hefyd am lyfrau ar y nofel, nad oes na diben na diwedd arnynt The Craft of Fiction', 'Aspects of the Novel', 'The Structure of the Novel', 'The Technique of the Novel', 'The Twentieth Century Novel', 'The Novel and the Modern World', 'What's in a Novel'. Daw'r naill ar ôl y llall yn genllif llawn, nes temtio'r myfyriwr diamyn- edd i gamddefnyddio un o frawddegau Shakespeare a dweud yn ei anobaith: "What! will the line stretch out to the crack o' doom Y mae Somerset Maugham, yn un o'i nofelau, wedi cyhoeddi barn yn glir a chroyw ar y duedd i ddefnyddio gweithiau o'r fath fel gwerslyfrau, ond naturiol fyddai disgwyl, hefyd, wedi'r holl feirniadu a'r dehongli y ceîd rhagorach crefft, cynllunio mwy cywrain a de- hongli mwy craff gan nofelwyr ein cenhedlaeth ni. Nid felly y bu, ysywaeth. ac un o'r brych u amlycaf ar draethawd campus Mr. Dafydd i ddeall egwyddorion y gwahanol wybodau y bu'n ceisio eu myfyrio." Gyda llaw, beth, tybed oedd achos ei gasineb at gerddoriaeth a fagodd gymaint nes iddo warafun pob munud a rodd- odd erioed iddi. Ni oddefai yn ei hen ddyddiau i neb ganu'r piano yn ei glyw, a chofiaf i Mam, yr hon oedd y drydedd Grasi ym mywyd Gwen- ydd ac yn ferch i Rosi'r tloty, ddweud i'w thaid ei bygwth â chosb difrifol "os na dewi di'r sŵn ar yr hen biano na, y trychfil bach." Mawr oedd braw fy Mam druan. Byddai'r Hunangofiant' yn gyfoethocach byth pe buasid wedi cynnwys llun o Gweirydd ynddo. Gŵr gweddol dal ydoedd, llydan ei ysgwyddau a chryf o gorff gyda phen mawr. Yr oedd iddo ddau lygad glas wedi eu gosod yn ddwfn yn ei ben, ac amrantau gwyllt a bygythiol, trwyn mawr a cheg llawn, ystwyth. Gwisgai ei wallt yn llaes, braidd, ac am ei wyneb yr oedd barf drwchus—gŵr i'w barchu, yn hytrach na'i garu. PRYS DARBYSHIRE-ROBERT Jenkins yw iddo ef ddisgwyl hynny. Cwyna, wrth sôn am Ddaniel Owen, na fanteisiwyd ar ei waith ef gan nofelwyr diweddarach, a dywed y "gallesid disgwyl gweld y nofel Gymraeg yn symud ymlaen ar sail ei waith ef." Onid oes yma gamsyniad hanfodol ynglyn â dat- blygiad llenyddol? Sylwer ar eiriau Virginia Woolf "-the analogy between literature and the process of making motor cars scarcely holds good beyond the first glance. It is doubtful whether in the course of the cen- turies, though we have learnt much about making machines, we have learnt anything about making literature. We do not come to write better; all that we can be said to do is to keep moving, now a little in this direc- tion, now in that, but with a circular tendency, should the whole course of the track be viewed from a sufficiently lofty pinnacle." Dywedais fod hwn yn draethawd campus,