Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ofnaf na allwn i ci hateb, ddim mwy nag y gallaf egluro'n effeithiol i ambell ddosbarth allanol paham y mae 'Ti Wyddost Beth Ddywed fy Nghalon' yn farddoniaeth wael. Beth am brif ddamcaniaeth Mr. Jenkins? Amheuaf yn fawr a yw fy* ngwybodaeth o noi- elau yn rhoi hawl i mi i'w beirniadu. Ond wrth gofio am rai a ddarllenais, welthiau o ddyletswydd, weithiau er pleser, án fwyfwy anodd eu mesur wrth ei reol ef. Yn 'John Inglesant', er enghaifft, yr hyn a wnaeth Shorthouse yn bennaf oedd gosod rhai о brob- lemau Mudiad Rhydychen ar gefndir addas yn yr ail ganrif ar bymtheg yn hytrach na chael gwcledigaeth bendant ar gymeriadau arbennig. Coleg y Brifysgol, Aberystwyth. CEFN YDFA, gan Geraint Dyfnallt Owen. Cyhoeddedig gan W. Griffiths a'i Frodyr, Llundain T.t. 2s2. 7/6 Yr wyf i ymysg y rheini a oedd byth a hefyd yn condcmnio cyflwr gresynus bein- iadaeth lenyddol yng Nghymru. Ein geirfa ydoedd termau fel plwyfoldeb, cenfigen, diffyg ehangder darllen, culni. 'Rwy'n dal i gredu fod ein holl gystwyo i'w gyfiawnhau ond nid yn unig yng Nghymru ond yn Lloegr yn ogystal. Ni allaf ateb am unrhyw wlad arall. Mae darllen papurau Sul Saesneg fel yr 'Observer' a'r 'Times' a'r amryw wythnosolion sy'n gwneud beimiadu dram- âu, ffilmiau, darluniau a llenyddiaeth yn rhan o'u gwaith yn gorfodi i ddyn gredu nad oes y fath beth â safonau. Mae beirniaid cydnabyddedig, nid weithiau, ond byth a beunydd yn anghydweld â'i gilydd. Yn ystod yr wythnos ar ôl y Nadolig ac wythnos gynta'r flwyddyn cyhoeddodd amryw bapurau erthyglou byr gan feirniaid enwog yn enwi llyfrau gorau 1949 yn eu tyb hwy. Un enghraifft yn unig a welais i o ddau yn enwi'r un llyfr. Hwyrach fy mod yn camgym- ryd, ond fe'm trawodd i'n arwyddocaol iawn. Mae'n ddigon hawdd dwcud fod rhai p thau sy'n gwbl angenrheidiol mewn nofel—ffurf, cychwyn —canol—diwedd, datblygiad. Y drwg yw fod gan wahanol awduron wahanol syniadau am beth sy'n ffurf dda. Yn wir, enwau mawr ein hops ni yw Proust, Virginia Woolf, James Joyce—pobl sydd wedi gadael i ganonau cyd- nabyddedig fynd i'r pedwar gwynt. Yn ôl Yn achos Aldous Huxley ffaith amlycaf ei nofelau yw ei fod yn defnyddio'r cwbl fel cyf- rwng mynegiant i'w syniadau ef ei hun, ac yng ngwrthdaro opiniynau amrywiol yn unig y ceir symudiad ynddynt. A beth a wneir, tybed, yn achos un fel T. L. Peacock, awdur sy'n dibynnu'n llwyr, bron, ar ymddiddanion i droi min ei arabedd yn erbyn y penboethyn a'r rhodreswr a'r damcaniaethwr, gan eu maglu â'u hymadroddion hwv eu hun. Efallai y dywed Mr. Jenkins nad yw'r llyfrau hyn, mwy na gweithiau Silyn ac E. Morgan Humphreys, "yn nofelau mewn unrhyw ystyr fanwl", ond ni bydd hwn yn ateb boddhaol. GARFIELD H. HUGHES. Rebecca West dim ond awduron "of real idiosyncrasy" sy'n werth eu halen. Pwrpas hyn o ragymadrodd yw awgrymu fod beirniadaeth lenyddol bellach yn rhywbeth personol, rhagfarnllyd. A da o beth yw hynny. Nid yn unig da o beth, ond anorfod o beth. Os oes personoliaeth o gwbl gan feirniad, mae ganddo'i ragfarn hefyd (ond cofio fod tipyn о wahaniaeth rhwng rhagfarn ynglŷn â chreadigaeth lenyddol a chasineb at awdur y greadigaeth lenyddol). Peiriant yn unig yw'r beirniad hwnnw sy'n pwyso a mesur llyfr yn ôl rheolau a osodwyd gan gyn- feirniaid. Bûm i'n credu unwaith fod bod yn ddiduedd yn rhinwedd. Erbyn hyn 'rwy'n gorfod addef nad oes y fath stad. Tybed nad gwaith beirniad wedi'r cwbl yw dweud sut yn union y mae ef, sydd yn ei ddydd wedi dar- llen ugeiniau o nofelau, yn ymateb i un new- ydd? Nid dweud ei bod yn well na hon neu'n wacth na'r llall ond dweud fod yn well ganddo ef hi na hon neu nad oedd ef yn ei hoffi gymaint â'r llall-a dweud hynny'n syml heb vmorchestu mewn smartrwydd geiriau ar draul ncb. Nid yw hyn wrth gwrs yn gwar afun cymharu a gwrthgyferbynu â holl len- yddiaeth y bvd crwn os mynnir hynny. Yn yr ysbryd yna felly yr ymgymeraf â'r ychydig sylwadau yma ar 'Gefn Ydfa'—yn hoffi rhai pethau ac yn drwg leicio pethau eraill am y rheswm syml na allaf newid fy