Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

natur. Mae'n deg imi addef fy mod wedi darllen adolygiadau eraill, ac wedi sgwrsio cryn dipyn ynghylch y notel hon Y ddraenen yw'r iaith-yr arddull goegfalch, anystwyth, aml- eiriog. Mae'n amlwg fod yr awdur wedi dewis yr arddull yn fwriadol ymwybodoi. 'Roedd ei anhawster yn fawr. Nid oes tradd- odiad straeon serch yng Nghymru na iaith gonfensiynol wedi ei sefydlu ei hun i gyfleu rhamant orffwyll dau gariad. Mae'r peth yn bod yn Lloegr, ac iaith urddasol- gywir rhai fel Jane Austen yn cael ei der- byn am ei gwerth yn hytrach fia'i gwir- ionedd. Mae'r ymadrodd "siarad fel llyfr" yn addef ein bod yn fodlon derbyn iaith llyfr gan wybod nad yw'n deg disgwyl iddi fod fel iaith bob dydd. Mae awdur 'Cefn Ydfa' yn hollol deg yn gofyn i ninnau dderbyn confen- siwn yr iaith a ddewisodd yntau i adrodd stori serch yn union fel yr oedd Shakespeare yn disgwyl i'w gynulleidfa dderbyn y syniad fod dyn yn siarad yn uchel am ysbeidiau hir, a hynny mewn barddoniaeth, ag ef ei hun. Prun ai'r iaith hon yw'r confensiwn gorau ar gyfer llyfr o'r fath sydd gwestiwn arall. Rhaid aros nes y dengys rhywun un mwy effeithiol. Mae rhywbeth yma sy'n fy mhoeni'n fwy na'r iaith. Tybed a oedd y chwedl werin hon yn werth ei hailadrodd o gwbl? Un o wendidau mawr llenyddiaeth gyfoes Cymru yw anwybyddu'r traddodiad llenyddol peidio â dangos gwybodaeth o'r hyn a aeth o'i flaen. Meddylier am funud cyn lleied o ddefnydd a wneir o'r Mabinogi fel enghraifft. Cymharer hynny â'r defnydd helaeth a wna'r DIRGELWCH PLAS Y COED. Nofel Dditec tif, gan Meuryn. Gwasg Aberystwyth. 4/. Mae'n ddiamau y gellid sgrifennu nofel ddi- tectif mewn llawer dull a modd. Ceir amryw- iaeth ardderchog yn y nofelau ditectif a gy- hoeddir yn Saesneg, a'r dadlennu a'r cyfIroi yn glyfar dros ben. Ar y cyfan, dof fu ein nof- elau ditectif ni yng Nghymru, ac ni bu angen am dditectif craff iawn i weld pen draw pethau. Y mae llawer o'r nodweddion arferol yn y nofel hon. Meurig Morris yn y bennod gyntaf yn rhygnu arni mai "peth difrifol ydi gwneud Saeson o chwedlau Groeg-rhai estron iddyn1 a dyma gennym ni'r Cymry chwedlau a garreg ein drws, ac yn peidio ag agor iddynt. Ond wedi penderfynu defnyddio, pa ddefnydd? Gellir un ai eu hail-adrodd neu eu cymryd feJ simbolau. Mae rhywbeth dros ail-adrodd y chwedlau mewn ffordd syml ar gyfer plant, ond choelia i byth nad busnes diles iawn yw gwneud hynny ar gyfer pobl mewn oed. Eu defnyddio a ddylid fel y defnyddiodd Saunders Lewis Flodeuwedd, fel simbolau-rhywbeth sy'n mynd i ddweud rhywbeth arall wrthym. Ceir dau lawenydd felly, llawenydd cofio'r hen stori a'r llawenydd o sylweddoli'r gwir- ionedd a wêl awdur sy'n ymhlyg ynddi. Ac nid un gwirionedd sydd ynddi o bell ffordd, ond cymaint union ag y sydd o awduron a gweledigaeth ganddynt. Bodlonodd Geraint Dyfnallt Owen ar ail-adrodd yn unig ac arhosodd ei gymeriadau'n fodau du a gwyn. Da a drwg, gwir ac anwir, caredig a ehas- dyna sy'n gweddu i chwedlau gwerin a straeon tylwyth teg. Dyna'r confensiwn ac fe'i der- bynnir. Ond gwyddom bawb nad peth fel yna yw bywyd, ac os am roi cig a gwaed ar esgyrn glân diamwys Y Ferch o Gefn Ydfa, oni ddylid cael rhywfaint o gymhlethdod cig a gwaed yn ogystal? Mac'n ddigon gwir y gwclir y cwb; drwy lygaid Iestyn Thomas, a bod ychydig c gymhlethdod yn ei natur, ond wedyn iddo ef dyn drwg yw ei ewythyr, gwraig ddrwg yw ei fodryb, sarff yw Ann Llywelyn ac aacel. yw Ann. Yn anffodus, nid yw bywyd hannei mor hawdd a syml â hynna, a phriod waith nofelydd yw dehongli bywyd fel y mae yng ngolau ei ddychymyg. J. GWILYM JONES. ewyllys a pheth difrifol iawn ydi marw." Wel, gan fod y creadur yn arswydo gymaint rhag angau, nid yw'n beth syn o gwbl (rhaid i rywun farw), i ddarllen am ei ddiwedd dramatig ar gychwyn y drydedd bennod. Braidd yn ystrydebol yw'r digwydd, a'r dy- falu yn ddiniwed. "Tybed nad oedd yn bos- ibl i Meurig Morris yfed gwenwyn mewn am- ryfusedd-yn ddamweiniol?" Dyfaliad hollol anghyfrifol, 'rwy'n ofni,