Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Sut bynnag, os cyffredin yw'r plot, feberth- yn rhinwedd amlwg i'r nofel hon; y mae Meur- yn yn medru sgrifennu. Ac er bod ei ddeunydd yn dila, y stori'n dyllog fel y gall y rhan fwyaf weld trwyddi, y mae sgrifennu campus yr awdur yn gwneud darllen y nofel hon yn PANTYCELYN Y PER GANIEDYDD (Pantycelyn) Cyfrol I.Trem ar ei Fywyd, gan Gomer Morgan Roberts, M.A. Gwasg Aberystwyth, 1949. Prin fod angen dweud fod hwn yn llyfr llafurfawr, gwerthfawr a phwysig. Ceir ynddo lawer o wybodaeth newydd a dogfennau newydd. Gwaith ymchwil sydd yma ac fe fydd yn fuddiol ac yn anhepgor i haneswyr ac i feirniaid llenyddol. "Ceisiais weu stori bywyd un o Gymry mwyaf ei oes" ebr yr awdur. Yn y gyfrol gyntaf hon ceir stori'r bywyd ar wahan i stori gwaith llenyddol Pantycelyn. Nid cofiant mo'r gyfrol gan hynny. Nid astudir meddwl Williams ua thwf ei feddwl. Cronigl a roddir inni, nid hanes. Gwir y ceir pennod ar y terfyn am "y Dyh a'i nodweddion". Braidd yn arwyn- ebol yw honno nid awgrymir ynddi fawredd yr emynydd. Addewir ail gyfrol ac efallai mai yn honno y ceir dehongliad Mr. Roberts o fywyd a gwaith Williams Pantycelyn. Ceisiaf innau'n awr alw sylw at rai o faterion tra diddorol y cronigl hwn o'i yrfa. Mae gan Mr. Roberts yn ei bennod gyr.caf bethau newydd i'w dweud am addysg fore oes Williams ac am ei droedigaeth grefyddol. Awgrymir mai yn Chancefield y bu ef yn yr academi ac mai'n gynnar yn ystod ei arhosiad yno, nid ar ei derfyn, y clywodd ef Howel Harris yn pregethu yn Nhalgarth o flaen porth yr eglwys ac y daliwyd yntau "wrth wys oddi uchod". Olrheiniodd Mr. Roberts holl gyfeiriadau Harris at Williams yn ei ddydd- iadur ac ni cheir un cyn mis Hydref, 1745. Ond y mae'r cyferiad cyntaf yn awgrymu cyfathrach flaenorol rhyngddynt a deil Mr. Roberts mai Harris a berswadiodd ei ddisgybl anghydffurfiol i geisio am urddau yn Eglwys Loegr. Os derbynnir hynny, a derbyn y ddamcaniaeth am amseriad et droedigaeth, fe v/elir mai cyfnod mawr dylanwad uniongyrchol beth pleserus dros ben. Mae'r cwbl yn fyw o'r dechrau i'r diwedd, dim llusgo o gwbl, a chan i Wasg Aberystwyth gyhoeddi'r llyfr mewn diwyg sy'n wir effeithiol, mae'n fargen am y pris. RHYDWEN WILLIAMS. 10/6. Harris ar ei fywyd yw'r blynyddoedd 1737- 1740. Ymddengys i mi fod hyn oll yn bwysig i'r neb a fyn astudio 'Bywyd a Marwolaeth Theomemphus'. Yn 1764, yn fuan wedi'r aduniad rhwng Harris a Rowlands, y cyhoedd- wyd y gerdd honno. Ymddengys mai yn 1741 y daeth Daniel Rowland 1 Lanwrtyd. Ni chais Mr. Roberts benderfynu pa bryd gyntaf y cyfarfu ef â Williams. Gelwir Rowland yn Boanerges gan Williams yn ei farwnad iddo, ond dywed fod arddull pregeth- au Rowland wedi newid ar ôl y dyddiau cyn- taf. A ellir cymryd mai Harris yw'r Boanerg s yn riieomemphus' ac mai Rowland yw Efangelius? A fu gan y ddau ran yn nat- blygiad crefyddol cynnar Williams ei hunan? Beth bynnag fo'r ateb, y mae pennod gyntaf Mr. Roberts yn ddeunydd anhepgor mwyach i unrhvw ddehongliad newydd o 'Thecmemphrs', Yn yr ail bennod rhoir hanes curadiaeth Williains yn Eglwys Loegr a'r çwynion a dducpwyd yn ei erbyn yn llysoedd ei esgob. Dyry Mr. Roberts yr holl stori gydag onest- rwydd hanesydd. Un tro'n unig y metha; vn wvneb yr holl dystiolaeth y mae ei fraw- ddeg olaf yn annheg: Ni fynnai Eglwys Loegr mo'r cyfryw i'w gwasanaethu y dwthwn hwnnw. Yr hyn sy'n eglur i mi oddi wrth y dystiol- aeth lawn a roddir yma yw bod yr Esgob ei hunan wedi dangos y lledneisrwydd a'r cwrteisi mwyaf a ellid tuag at W'illiams a bod llys yr Esgob, y llys a chwiliodd y cyhuddiad- au vn ei erbyn, wedi dangos amynedd, mwynder a thrugaredd tuag ato. Ni ddig- wyddodd dim oll ar ran yr Esgob nac ych- waith lys yr Esgob na Theophilus Evans i rwystro i Williams aros yn yr Eglwys a chael