Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yr unrhyw lyfr fe elwir yr Arglwydd Iesu yn "Dad Tragwyddoldeb",—ac y mae hynny hefyd yn gwbl Ysgrythurol. Mi hoffwn grefu ar haneswyr Methodistaidd am beidio â thaílu cyhuddiadau o heresi yn ysgain yn erbyn s.1- faenwyr eu Cymundeb; canys yr argraff a ddyry hynny ar eu darllenwyr yw nad ydynt hwy'n cyfrií fod heresi bellaon nac yn bechod nac yn fater o bwys. Saesneg oedd iaith cofnodion swyddogol sasiynau'r Methodistiaid a Saesneg yw llyth- yrau'r arweinwyr. Y maent oll yn llawn o idiomau Cymraeg. A ydyw'r frawddeg hon gan Ilowell Harris yn enghraifft, pan dilywed am Esgob Tyddewi, tudalcn 73: "He bless'd himself from persecution"? Ni thybiaf fod hyn i'w gael yn llythyrau Saeson y cyfnod ond y mae'r ystyr yn eglur o'i droi'n ôl i'r Gymraeg: "ymgroesodd rhag erlid". Dyfynna Mr. Gomcr Roberts yr hyn a ddywedais i yn fy 'Williams Pantycelyn' am ddiwylliant y bardd. Erbyn heddiw barnaf PATAGONIA RIIYDDIAITH Y WLADFA. gan R. Bryn Williams. Gwasg Gee. Tt. 70. 1949. 4/ Diddorol dros ben i ni drigolion Dyffryn Camwy yw cynnwys "Rhyddiaith y wladfa" gan y Parcth. R. Bryn Williams. Rhoddwyd diwyg arbennig o ddeniadol i'r llyfr, a'r gresyn yw na byddai modd cael cyflawnder o gopiau ohono yma. Y mae llawer o le i ganmol ar y llyfr Casglwn mai rhan ydyw o dracthawd a ysgrifcnnwyd gan yr awdur am ei radd M.A. rai blynyddoedd vn ôl. Y mae'r ffeithiau yn gywir, a'r casgliadau a dynnir oddi wrthynt vn; naturiol. Gwirionedd trist a gcir ar ddiwedd y llyfr: "Gobcithio bod fy narcgan yn anghywir, ond ofnaf na ellir llenyddiaeth fawr drwy gyfrwng iaith sy'n gwywo ar wefusau'r werin." Felly yn union y mae. Y mae dydd llenyddiaeth Gymraeg, yn rhyddiaith a barddoniaeth, ar ddarfod yn y Wladfa, oni ddigwydd un o ryfcdd wyrthiau Duw. Cefais ychydig o brofìad yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn fel argraffydd a golygydd papur newydd, ac o'r ychydig sydd vn para 1 lenydda'n Gymraeg, y maent i gyd, gydag un mai amrwd a ffôl oedd dweud, "Nid oedd ganddo ddiwylliant Cymraeg". Bu dylanwad llenyddiaeth Gymraeg a dylanwad diwylliant a thraddodiadau ei fro yn lletach a dyfnach ar ei waith nag a ddëellais i'r pryd hynny. Tasg bwysig sy'n aros rhyw hanesydd yw astud- iacth o holl gefndir seiadau a sasiynau'r Methodistiaid cynnar a'r gwahanol gylchoedd cymdeithasol gyfarfu ynddynt a'u diwyll- iant oll. Dengys cofiant Dafydd Jones, Llan- gan, i Christopher Basset, 1784, 'Llythyr oddi wrth Dafydd ab loan y Pererin at loan ab Gwilym y Prydydd', fod y cefndir yn gyfoeth- ocach nag a ddangoswyd hyd yn hyn. Y 'Llythyr' hwnnw yw'r cofiant gwreiddiol cyntaf yn y Gymraeg, ac y mae bai arnaf na whbûm amdano pan sgrifennais ar y 'Cofiant Cymracg' yr oedd copi yn llyfrgell fy nhad a thrafodir y gwaith yn 'Y Tadau Methodist- aidd' I, 475. Y mae'n un o weithiau pros hyfrytaf ail ran y ddeunawfed ganrif. Cyhocddwyd ef yn Nhrefeca. SAUNDERS LEWIS. neu ddau o eithriadau, dros eu chwe deng mlwydd oed. Y mae Arthur Hughes yn para yn ei rym 0 hyd ac yn arlwyo gwledd flasus bob wythnos i ddarllenwyr "Y Drafod." Bu'n rhaid rhoi'r gorau i gyhoeddi'r cylchgrawn "Yr Eisteddfodwr," am nad oedd gennym neb vma ond ef y gellid dibynnu arno am ysgrif neu vmdriniaeth o safon. Yr hvn sydd yn rhyfedd ynglŷn â llyfr y Parch. R. Bryn Williams, yw'r bylchau amlwg svdd ynddo. Dim ond un frawddeg fcchan, swta, am Prysor a ysgrifennodd rhwng 1937 a 1945 fwy o ryddiaith nag odid neb yn y Wladfa. Yr oedd ef yn ysgrifcnnwr nwyfus a galluog. Un о nodweddion llenyddiaeth y Wladfa yw bod ei gwreiddiau yn nhraddodiad gwaelaf y XIX ganrif ond yr oedd yn ysgrifau Prvsor nid ychydig о ddylanwad Owen M. Edwards ac Eluned Morgan. Ni roddwyd lle о gwbl vchwaith i Domos Morgan Clydfan ac Ithel J. Berwyn a gyfrannodd yn helaeth iawn i lên a hanes y Wladfa, heb nodi ysgrifcnwyr eraill amîwg yn eu dydd.