Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Sylwn hefyd fod y detholion a geir yn y gyfrol yn perthyn i gyfnodau pell yn ôl, yr adeg yn ddiau yr oedd y Parch Bryn Williams yn ei hastudio ar gyfér ei draethawd. Hyd yn oed, gyda golwg ar Arthur Hughes, gâllasai ddyfynnu llawer perl o'i ysgrifau mewn cyfnod diweddarach, I945-48 dyweder. Am "O Gesail y Graig" y sonnir amdano yn nhudalen 64, hwyrach y bydd o ddiddordeb i ddarllenwyr Y Fflam wybod mai un o fecffgyn athrylithgar y wlad hon ydoedd y diweddar Richard H. Rowlands a fu'n golygu 'Y Drafod' am gyfnod ac a gafodd lawer o bleser a mwynhad \\Tth lyncu cynnwys geiriaduron Cymraeg. HwyTach mai un o'r achosion pennaf am fethiant llenyddiaeth Gymraeg yn y Wladfa ac o ganlyniad holl gorff y diwylliant Cymreig yma yw'r diffyg cymundeb â Chym- ru yn ystod y tri deng mlynedd diwethaf. Ar wahan i bump neu chwech o Gymry darllengar Golygydd "Y Drafod," Gaiman, Chubut, Argentina. EVAN THOMAS, LLYFRAU GWASG Y BRYTHON CERDDI DAFYDD OWEN. Casgliad o gerddi y bardd ifanc a enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1943. Lliain 3/6. Y DWYRAIN A CHERDDI ERAILL Gan G. Gerallt Davies. Enillodd y bryddest 'Y Dwyrain' goron Eisteddfod Môn 1944. Lliain 3/ UNWAITH ETO. Telynegion Newydd Wil Ifan. Ceir yn y llyfr bedwar dar- lun wedi eu tynnu o ddarluniau lliw yr awdur. Lliain 3/6. Y BARDD YN EI WEITHDY. Ysgyrs- iau gyda rhai o Brifeirdd Cvmru dan olygiaeth yr Athro T. H. Parry-Will- iams. Lliain 2/6. BYWYD A GWAITH ISLWYN. Gan D. Gwenallt Jones, M.A., Ei Hanes: Pregethau: Diwinyddiaeth: a'i Syn- iadau Llenyddol. Lliain 2/6. DIOGELU DIWYLLIANT. Gan H. D. Lewis, M.A., B.Litt. Casgliad o ys- grifau Y Gelfyddyd o Wrando Y Bardd a'r Athronydd: Beirniadaeth Adrodd: Dilema'r Brifysgol: Y Brifys- gol a'r Werin. Lliain 3/6. Y PATRWM CYDWLADOL. Gan J. Gwyn Griffiths, M.A. Rhif 18 yng Nghyfres Pobun. Lliain 2/6. Anfonwch am restr gvflawn: HUGH EVANS A'I FEIBION CYF., 9-11, Hackins Hey, Lerpwl 2 ni wyr y gwladfawyr heddiw fawr ddim am lenyddiaeth Gymraeg y dydd. Yr ydym ni yma .11 byw eto yng nghanol cysgadrwydd melys oes Victoria. Daniel Owen yn dal yn ben nofelydd, ac ambell fardd wedi llwyddo i gyrraedd gwersi Dewi Emrys, a ystyrir yn anffaeledig a digonol i feddiannu holl feysydd Parnasws. Druain o Davies Aberpennar, J. Gwyn Griffiths, Alun Llewelyn Williams a'r moderniaid eraill; prin y mae'r sôn amdanynt wedi croesi'r Iwerydd eto, a gobaith gwael am groeso sydd ganddynt mewn gwlad lle y mae Ceiriog a Chrwys yn para'n ben brenhinoedd. Hwyrach i mi grwydro, ond myfyrdodau yw'r rhain yn codi oddi ar lyfr blasus R. Bryn Williams. Diolch iddo yn gynnes amdano, a phrysured "Cerddi Patagonia" eto allan o'r wasg. Y mae gan rhai ohonom ofn gweld y gyf- rol honno, ac eraill yn disgwyl anfarwoldeb ar ei chorn. GWASG ABERYSTWYTH J. D. LEWIS A'I FEIBION, CYF. + ARGRAFFWYR a CYHOEDDWYR + Y WASG sy'n cyhoeddi'r LLYFRAU GORAU trwy gydol y flwydyn EIN LLYFRAU I'W CAEL YM MHOB MAN GOFYNNER AM EIN CATALOG DIWEDDARAF + Trwy ymuno â'r CLWB LLYFRAU CYMRAEG fe gewch y llyfrau diweddaraf wedi'u rhwymo mewn lliain am y pris anhygoel o 2/6 y gyfrol + Pan fyddwch yn Aberystwyth trowch i mewn i'r Swyddfa — 45, North Parade