Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GORSEDÖ Y BEIRDD A CHREFYDD Odid na ddvlem wybod crbyn hyn nad oes fawr o obaith i ymosodiadau o'r tu allan ar Orsedd y Beirdd fedru niweidio'r sefydliad hwnnw sydd bellach yn rhan annatod o'r Eisteddfod Genedlaethol. O'm rhan fy hun methaf weld íod unrhyw elfennau arwyddocaol yn ncfodau a seremoniau'r Orsedd svdd yn anghydwedd â syniadaeth Gristionogol. Erfynnir, fel y gwyddom, trwy ddefod a seremoni ar i iaith a diwylliant Cymru, a'i Heisteddfod yn neilltuol, fod "dan nawdd Duw a'i dangnef". Yr ymadrodd hwn, mae'n siwr, "dan nawdd Duw a'i dangnef", yw'r allwedd i arwyddocad yr Orsedd yn grefyddol. Mae llawlyír yr Orsedd yn sôn am "y naws grefyddol sydd iddi, a hynny heb wneuthur cyfrif o wahaniaethau sect nac enwad". Fe ymddengys i mi íod crefydd yr Orsedd yn rhywbeth amgenach o lawer iawn na namyn naws anenwadol. Y mae angen dileu'r geiriau hyn o'r llawlyír yn sicr, oherwydd ystyr wlanennaidd yn unig sydd iddynt. Nid er mwyn cael rhyw iath o gyfarfod cydenwadol y byddys yn ayana Gorsedd. Onid ystyr grefyddol Gorsedd y Beirdd yw ein bod yn dysgu ynddi a ninnau'n dangos ynddi'r un pryd mewn defod a seremoni mai "dan nawdd Duw a'i dangnef" y dylem gadw ein diwylliant cenedlaethol ? Sut bynnag, os defodaeth wrth gynnal Gorsedd, oni ddylai honno fod yn gwbl gyson yn ei holl elfennau â hi ei hun? Mae'r Orsedd, wrth gwrs, wedi gwella'n rhyfeddol yn hyn o beth yn y blynyddoedd diwethaf yma. Eto, fe ymddengys fod rhai eIfennau yn y ddefodaeth nad oes unfrydedd bob amser yn eu cylch. Er enghraifft, pan urddwyd yr Arch- dderwydd presennol, Cynan, yn Llanrwst, gwelsom fod un a gynorthwyai yn yr act o'i urddo a ddodai ei law ar ei ben tra penliniai o flaen yr Archdderwydd Wil Ifan. Ymgroesai'r ddau gynorthwywr arall i bob golwg rhag ymddeíodi felly â'u llaw, ond yn hytrach dodi eu llaw a wnaethant hwy ar wegil y darpar Archdderwydd. Ond pa ryw ystyr a ddichon fod i arddodiad dwylo ar war neb, nis gwn. Gofynnwn gyda phob dyledus barch, oni ellir cytuno i ddileu amhariadau defodol yn llwyr wrth gynna Gorsedd y Beirdd? Fel un a gafodd fraint aelodaeth o'r Orsedd rhaid imi addef fod un peth yn fwy na dim yn peri anhawster mawr i mi'n bersonol, sef pa fodd i synio'n ddiwinyddol am swydd yr Archdderwydd? Dywed cyfarwydd- iadau'r Orsedd mai'r arfer yw ethol un o'r Prifeirdd yn Archdderwydd. Gall Prifardd fod yn lleygwr neu'n ŵr ordeiniedig. Ond os etholir lleygwr, beth am agwedd grefyddol ei swydd? A fyddai'r act o'i urddo'n Archdderwyud yn ychwanegu arwyddocad crefyddol at ei safle? Y ffaith yw, fodd bynnag, mai gwyr ordeiniedig yn unig sydd wedi eu hethol yn Archdderwyddon er cyn cof pawb. Eto, os oes agwedd grefyddol yn hanfod i Orsedd y Beirdd, oni eHid fod wedi ethol lleygwyi hefyd yn Archdderwyddon? Yr argraff a gaf i yw fod ein Harchdderwyddon yn dal mai eu safle fel gwŷr ordeiniedig sy'n cynnal hynny o awdurdod crefyddol a feddant yn y swydd o Archdderwydd. Gallaf egluro'r argrafí yma'r ffordd hvn. Nid yw Wil Ifan yn gwisgo coler gron bob amser, ond ym mhob darlun ohono fel Archdderwydd mae'r goler glerigol yn amlwg iawn, a diau felly nad heb ystyr yw iddo ei gwneud hi n arferiad i fynd a'r goler honno gydag ef bob tro yr aeth i archdderwydda. Os ei saíle fel gŵr ordeiniedig sydd yng ngolwg Archdderwydd yn cynnal ei awdurdod crefyddol, a yw'n bosibl ethol prifardd o leygwr yn Archdderwydd? Os oes agwedd grefyddol yn hanfod i'r Orsedd oni eff cael yn hyn yma sail i safle crefyddol Archdderwydd, fel na byddai wahaniaelh pa un ai gŵr ordeinicdig yw'r Archdderwydd ai peidio? Dyma un pwynt ynglŷn â'r Orsedd a bair i ddyn ddal y dylai Bwrdd yr Orsedd benodi pwyllgor arbennig i astudio'r ochr grefyddol i wcithred- iadau'r Orsedd. E.B.