Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

afon Acheron ("gwae") a'r hen ŵr llwyd yn cludo'r damniaid drosti. Rhed hon droSydibyn nes ffurfio styx ("casineb"), llyn lleidiog berwedig lle trochir y neb a fu'n llidiog ar y ddaear. Yn is i lawr caiff yr afon yr enw Phlegethon ("tân"); yn y llyn o waed llosg y berwir eneidiau gwyr hoff o dywallt gwaed. Wedi byrlymu dros y clogwyni i waelodion y Pwll, fe lif y dyfroedd i Cocytus ("galarnad"), llyn o rew lle cosbir pob bradwr, ac eithrio'r tri phechadur pennaf, Judas Iscariot a dau leiddiad lwl Cesar; cnoir hwy yn nhair safn Luciffer, angenfil blewog a chwyth anadl y rhew tragwyddol. Yn Uffern y llif Lethe ("angof") Milton, i boeni'r colledigion a fynnai ddracht o Afon Angof ar eu hynt 1 dir y rhew lle yr anfonid hwy o'r tân ar brydiau penodedig. Yng ngardd Dante cawn hi yn y Baradwys Ddaearol ar gopa Mynydd Purdan; wedi cyflawni eu penyd ac yfed cyfran o'i dŵr grisialog anghofìa'r eneidiau cadwedig holl wae a phechod y ddaear. Sylwm wrth fynd heibio ar bendefìgion Uffern Milton yn ceisio diddanwch pan aeth eu brenin tros y gwagle i weled ansawdd y ddaear newydd a'r dyn newydd a osodwyd i fyw arni. Dech- reuodd rhai ffug-ryfela a threfnu eu catrodau; canai eraill yn un cór swynoi; gwell gan rai oedd dadlau am "Ragluniaeth, Rhagwybodaeth, Ewyllys, Tynghcdfen, tynghedfen sefydlog, ewyllys rydd a rhagwybodaeth ddiamod" (P.G. 2.559), Aeth criw arall i rodio heibio i'r pum afon hyd at Dir y Rhew. Ni roes Milton ei gydwladwyr yn Uffern; soniodd am "feibion Belial" yn uffernoli Llundain; ond ni nododd eu henwau. Cyf- arfu Dante â nifer o'i gyfoedion yn y Pwll; cafodd ysgwrs ddifyr â llawer o'r lleill hefyd, megis Francesca ac Ulysses. Paratôdd lc i rai cyn iddynt farw; proffwydodd un pab fod pab arall ar ddyfod yn gydymaith iddo yng nghrochan tân yr Hereticiaid. Gwnaeth Dante gam dybryd ag un pab trwy ei ddal yn gyfrifol o drosedd ymherodr o'r un enw. Bu Ellis Wynne yn gynilach; ond gosododd Cromwell a Bradshaw ymhlith y pennaf o'r damniaid. Collodd Milton trwy ddcchrau mor gynnar. Yr oedd y byd yn rhy ieuanc iddo ef roi mcibion a merched yn Uffern; ond y mae cryn dipyn o'r natur ddynol ar ei gorau yn ei ysbrydion aflan. Gallai Satan ei hun dosturio am ciliad; acth yn "hurt o dda" (P.G. g .465) dan hud prydferthwch Efa pan oedd ar fin ei themtio. Colicr hefyd ei ddisgrifiad o areithwyr a gwleidyddion galluog ymysg y damniaid. Nid ocs ond gwrthuni ac erchylltod yn Luciffer Dante; ond pobl glcn a chwrtais yw llu o'i gyd-ddinasyddion. Y mae ei Uffern cf hefyd yn fwy trcfnus a manwl na'r ciddo'r lleill; gcllir gwneud map ohoni a mesur ei hyd a'i lled yn ól yr hyn a ddywaid y bardd ei hun.