Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gun OLWEN SAMUEL, Glyn Ebwy I NI'R Cymry sy mor ddiweddar wedi dod i gydnabod y tegwch o sefydlu ysgolion cynradd Cymraeg ar gyfer plant o Gymry, ac sydd heb eto gymaint ag un ysgol eiiradd Gymraeg, y mae'n ddiddorol a buddiol gwybod hanes Sgoil Eanna, sef Ysgol y Sant Enda yn yr Iwerddon. Ysgol oedd hon a sefydlwyd yn 1908 gan y gwron a'r gwladgarwr enwog o Wyddel—Padraig Pearse a gollodd ei fywyd oherwydd. gwasanaethu ei wlad amser Pasg 1916. Cyn sôn am yr ysgol ei hunan, efallai mai cystal dweud rhywbeth am hanes y sefydliadyd a'r prifathro ei hun. Ganwyd Padraig H. Pearse ym mis Tachwedd 1879 yn Nulyn, lle'r oedd gan ei dad, James Pearse, fusnes fel cerilunydd. Yng ngoleuni hanes diweddarach Padraig Pearse mae'n werth cof- nodi'r ffaith mai mab ydoedd i eithaf Sais, ond mai Sais oedd James Pearse a gredai mewn rhyddid hyd yn oed i'r Gwyddyl, fel y tystia pamftled o'i eiddo a enwir "Dyletswydd Lloegr tuag at yr Iwerddon, fel yr ymddengys i Sais." Fc'n hatgoiir am lawer i Gymro gwasanaethgar a theyrngar, fel William Salesbury yntau o waed estron. Un felly ynteu, uedd tad y James Pearse. Aeth y mab gam ymhellach. G\vr oedd Padraig Pearse a ymroes yn llwyr ac yn unplyg yn ystod ei fywyd byr i wasanaethu Iwerdd- on a phopeth cysylltiedigâ hi. Ers pan oedd yn ddeuddeg oed yr oedd wedi prynu llyfrau gramadeg Gwyddeleg ac yn prysur ddysgu'r iaith honno. Pan oedd yn ddim ond dwy ar bymtheg oed sef- ydlodd Gymdeithas Lenyddol yr Iwerddon Newydd, a chyn ei fod yn ddeunaw 'roedd yn olygydd papur Gwyddelig ac wedi cyhoeddi llyfrau yn cynnwys erthyglau o'i waith ar bwnc yr iaith. Erbyn ei fod yn bedair ar hugain oed yr oedd wedi ennill dwy radd ym Mhrifysgol Dulyn, un yn y Celfyddydau, a'r llall yn y Gyfraith. Ar ôl hyn bu'n gweithio gyntaf fel newyddiadurwr, ac yna fel darlithydd yn y Brifysgol. 'Roedd felly bob addewid am yrfa ddisglair o'i flaen, pes mynnai. Ond trwy'r blynyddoedd hyn dyheu yr oedd am sefydlu ysgol i fechgyn, ysgol a fyddai'n fynegiant o'i ddelfrydau arbennig ef ei hunan. Dyma ei ddisgritìad ef o'i fwriad "Ysgol a anela at wneud dynion da yn hytrach na dynion dysgedig; a chan mai fy niffiniad i," ebe ef, "o ddyn da o'i gymhwyso at Wyddel yw ei wneud yn Wyddel, da (oblegid ni ellir Sais neu Ffrancwr da o fachgen o Wyddel), a chan mai fy niffìniad i o addysg i WTyddel, yw addysg wedi ei gosod ar syl- faen sy'n hanfodol Wyddelig, yna'r canlyniad yw, mai Ysgol Wyddelig fydd fy ysgol i, ysgol na fu ei thebyg erioed o'r blaen yn yr Iwerddon." Sgoil Eanna