Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Soniodd Padraig Pearse am ei fwriad wrth ychydig o'i gyfeillion, ac er ei syndod cafodd eu cefnogaeth barod. Oddi wrth dri gŵr o Ulster y cafodd y gefnogaeth lwyraf, a bu'r ysgol trwy gydol ei hanes yn ddyledus iawn yn ariannol i'r "triwyr da eu gair" o Ulster. Y canlyniad oedd i tua deugain o fechgyn o bob oedran ymgynnull un bore ym mis Mcdi, 1908, yn Cullenswood House vn Nulyn. Ymfalchiai'r prifathro fod defnydd ei ysgol yn rhoi ysbryd- oliaeth i'r fath fcnter, oherwydd 'roedd pob plentyn yn yr ysgol yn dod o gartref lle'r oedd traddodiad o wasanaeth ac aberth/dros eu gwladyn amlwg,— traddodiadau o wasanaethllenyddol, addysgiadol neu wleidyddol. Peth arall a barai lawenvdd i Padraig Pearse oedd fod gan Cullenswood House, cartref ei ysgol, sawl cysylltiad hanesyddol werthfawr. 'Roedd ei furiau eisoes wedi cyfrannu at fywyd y genedl, megis. Ymhellach, eiddo Padraig Pearse oedd y ty, i'w helaethu a'i newid fel y mynnai. Sonia un o'i ysgolheig- ion a ddaeth yno ar y bore cyntaf hwnnw am yr argraff ddofn a wnaed arno wrth weld enwau arwyr a seintiau'r Iwerddon mewn llythrennau breision Gwyddelig ar hyd y paradwydd. Ar y bore hwnnw hefyd yr oedd rhai o'r bechgyn i glywed yr iaith Wyddeleg yn cael ei siarad am y tro cyntaf, iaith a oedd i ddod mor gyfarwydd i bob un ohonynt a'r Saesneg. Ie, o'r diwrnod cyntaf hwnnw yr iaith Wyddeleg oedd iaith swyddogol yr ysgol. Hi oedd iaith pob cyfathrach rhwng y prifathro a'r athrawon, hi oedd i ddod fwyfwy yn iaith y bechgyn. Bob bore, ar gychwyn y dydd, caed gwasanaeth crefyddol 1 ac ail-adroddwyd yr hen ffurf Wyddelig ar y Litani gan y bechgyn. Byddai'r prifathro yn eu hannog i siarad y Wyddeleg. Un bore' yn ôl tystoliaeth un o'r bechgyn, dywedodd wrthynt.: "Yr ydym yn siarad yr iaith Wyddeleg, nid am ei bod yn iaith bersain a hynafol, na chwaith am fod ynddi lenyddiaeth urddasol, ond am mai ein hiaith ni ein hunain yw." Nid oes amheuaeth nad ysbrydclwyd Padraig Pearse wrth iddo ymdrwytho yn hen chwedloniaeth a hanes ei wlad, oblegid buasai'n astudio clasuron mawr llenyddiaeth yr Iwerddon yn y Wyddeleg gwreiddiol ers blynyddoedd, ac yr oedd yr hen ddelfryd Wyddelig am addysg J n un atyniadol dros ben iddo. Dywed mai hen air y Gwyddyl am addysg yw "Meithriniad." Meithrinwr oedd yr athro ,í 'r plentyn oedd y mab maeth. Yn hanes Cuch- ulain, disgrifir ysgol felly, ysgol ddelfrydol fel y cyfrifai Pearse hi. Cynulliwyd plant ynghyd mewn man hyfryd i'w meithiin gan ryw wr, enwog am ei fawrfrydigrwydd, neu am ei ddloethineb, neu am ei fedr mewn crefft. Nid rhyw was cyflog y dylai athro fod, ond un y mae ganddo ddawn enaid, neu ddawn meddwl, neu ddawn corff, a'i codai ymhell uwchlaw ei gyfoeswyr. Credai Padraig Pearse yn ddiffael yn yr elfen genedlaethol mewn addysg. Dyma'r rhewm paham y gofalai fod pob un o'i