Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

A heddiw ddiwethaf ar lawr y dyffryn Clywais gysurwyr yn cynnig imi eu gweniaith, A gwelais yno fy iaith fy hun, a'i hwynepryd Fel un yn anniddig ymysg dieithriaid. O'm daear tyf eto wyr o galon, Yn un â gwaed iy ngweddill, Yn gytun â phridd fy ngwreiddyn, Ac ni faidd a ddyfeisio imi ddolur Nac a arglwyddiaetho er niwed o'm mewn. Ymlêd fy ngwreiddyn yn fagwraeth Ddirwygedig wrth ddyfroedd yr afon, Ac ymdaen diwylliant fy ngweddill Yn wyrdd hyd dyle a thwyn. Hagrwch, nis gwelir yn blaguro, A thramgwydd, ni bydd neb i'w hau, Taeogrwydd, ni cheir a'i tyfo, A gwarth, ni phlennir hwnnw chwaith. Ac mwyach yn y dyffryn na flinodd ddisgwyl Bydd y canghennau'n ffynnu hya i'w brig, Ac ar ben eu tymor bydd y dail Yn disgyn yn dawel yn y tir. Canys cariad, Fel anffaeledig wawr, a rydd Ei law ar drymder ein cnawd, Rhoddi ei lendid ar y pridd, Ei buredigaeth yn y gwaed.