Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Enaid a Chorff (Lled-gyfieithiad o Saesneg Samuel Waddington). Ble'r oeddit, Enaid, cyn it droi fy nghawd Yn breswyl ? Ai ar y ddaear, ynteu 'mhell Draw'n y cymylau, y disgwylit gell ? Neu ar ba siawns, neu drwy ba ryfedd ffawd, Y sylwaist ar fy ngeni'n faban tlawd ? Wrth lithro i mewn, ai trist ai lIon dy wedd ? Ai ynteu 'smaldod gennyt fyw hyd fedd Ynghlwm wrth gig a gwaed er profi eu rhawd ? Na, gwatwar ydwyf, Enaid fe wn i Na welsai daear, na'r nef bell, dy bryd; Cans tyfu a wnaethom ni ein dau ynghyd; Ond pan ddarfyddo'r wisg, a drengi di ? Ni wyddom hyn, a phan ddaw'r olaf awr Ciliwn yng nghysgod yr amheuaeth fawr. W. J. BOWYER Gwanwyn (Catullus XLVI: "Jam ver egeüdos refert teþores".) Eisoes y gwanwyn pêr a ddwg yn ôl Ei falmaidd des o gell caethiwed ia. Eisoes y tau'r ystormus ru dros ddôl, Ym murmur lleddf y gorllewinol chwa. Fy mhrydydd ffôl, nid oes a erys mwy Hyd wastadeddau crin Phryg:a gras. Nid oes a blyg ei war dan Haul a'i glwy' Ar erwau moethus y canoldir bras. Ffarwel, gyfeillion mwyn y fynwes fau, Cans hedfan wnaf i glaer ddinasoedd hud Llawen fy mron pan chwennych fwrw'r iau, Pan ddeffry nwyfus droed o'i hunedd clyd. Hwylio'n gytun a wnaem ymhell o'n bro- Dyrys yr hynt a'n dwg bob un i'w do. Coleg y Frenhines, Rhydychen. BRYNMOR JONES.