Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"0 Venusta Sirmio (Cyfleithiad o'r bardd Lladin Catulus, Rhif xxxi). Mor llon yr hwyliaf eilwaith ger dy draeth Sirm:o, berl ein holl ynysoedd gwyn A phob rhyw benrhyn brau a ddeil yn gaeth Hen ŵr y dyfnfor a duw'r llariaidd lyn. Odid y credaf imi ffoi yn llwyr O Dir y Dwyrain i'th ddiogel gôl, I wynfyd dwfn obennydd yn yr hwyr, Pan wêl y galon luddion byd o'i hôl. Henffych ,Sirm:o firain, llawenhâ I'th Arglwydd yn ei loes rho hafan glyd Pan ddêl i'w aelwyd-gwobr a'i rhyddhâ O ludded blin a thrymder estron dud. Bydd lawen, risial lyn o Lydiaidd dras Boed lon sibrydion ym mhob sïog blas Y Gymwynas Olaf (Cattullus CI "Multas per gentes et multa per aequora vectus"). 'Rôl hwylio'n unig hir bellterau'r môr A throedio llwybrau ambell estron dud, Nesu yr wyf, frawd tirion, at dy ddôr Er cyfarch llwch dy sacramentau mud. Ofer dy gyfarch-olaf ddefod wnaf- Cans Ffawd ei hun a'th ddug di mwy ar ffo, A'th gipiodd di, a'm gedy innau'n glaf, Och dyner gymrawd, am waradwydd gro. Derbyn yn awr anrhegion diwedd rhawd O ddwylo crin yr hen wehelyth fu. Yn trwm-ddiferu dafnau dagrau brawd, Fel olaf drugareddau'r beddrod du. Afe, druenus frawd, boed rwydd dy hynt Henffych byth byrthoedd, fel y dyddiau gynt Coleg y Frenhines, Rhydychen. BRYNMOR JONES