Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"teimlodd rhyw ias oer"(td.io),"fe wnai hi vhywbeth"(td.78),"synhwyrai fod ryw anhwyl ar y Hanc"(td. 63), "yr ocdd vaid mynd" (td. 29). Ni chafodd yr awdur chwarae teg gan yr argraffwyr. Y mae'r papur a'r cloriau yn sâl a cheir llawer o wallau, — "caletwch" (td. II), "drysu" (td. 23) am "drysau", "dieheulwen" (td. 28), "dirwrnod"(td. 48), "busasai" (td. 58), "distwrawydd" a "byddau, am "byddai" (td. 60), "sylwedloddi" (td. (62), "cyfnasau" (td. 71), "bloadau, (td. 78). Dyma ymdrech gyntaf awdur newydd. Llwyddodd yn Y Nos i greu stori a chyffro drwyddi. Y mae digon o antur ynddi a dylai fod mynd mawr arni. D. ELLIS EVANS. STORIAU AC YSGRIFAU Padrarig 0 Conaire. Troswyd gan J. E. Caerwyn Williams. Yn 1934 cyhoeddwyd casgliad o storïau Padraig 0 Conaire wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg gan Mr. Myrddin Lloyd. A dyma gasgliad arall o storïau ac ys- grifau'r un awdur wedi eu trosi gan Mr. Caerwyn Williams. Felly y mae cyf- ran go dda o weilhiau'r llenor hwn bellach o fewn cyrraedd y darllenydd o Gymro. Padraig O Conaire ocdd yr olaf o'r llenorion crwydrol yn Iwerddon. Oddi ar ddechrau'r Rhyfel Mawr yn 1914 hyd ei farw yn 1928 bu'n crwydro Iw- erddon o un pen i'r llall, ac fel y mawyafrif mawr o'i ragflaenwyr, bu farw yn ŵr tlawd heb ddim ganddo ar ci elw ond pibcll, owns neu ddwy o dybaco ac afal. Y mae yn un o'r ychydig lenorion Gwyddeleg diweddar y perthyn i'w gwaith unrhyw werth llenyddol, a gellir ei roi ymhlith gwŷr fel Peader O Laoghaire, Seumas O Grianna ac eraill. Y broblem a wynebai'r rheiny a geisiodd ysgrifennu Gwyddeleg pan gych- wynnodd y mudiad i adfer yr iaith yn y naw degau oedd diffyg iaith leny ddol addas. Gwyddys am draddodiad llafar yr ystoriwyr, ond yr oedd hwnnw heb fynegiant llenyddol safonol. Felly, aeth rhai o'r awduron yn ôl at iaith ysgriicnwyr y ddeunawfed ganrif neu at briod-ddulliau a geirfa Keating. Ond, ni thalai hynny, gan fod cryn agendor rhwng yr iaith honno a iaith lafar trigolion y Gaeltacht, a chawn i wŷr fel O Laoghaire ac O Conaire ar ei ôl ymwadu â'r iaith arwynebol hon a defnyddio'r iaith lafar a glywent ac a wyddent, ac a oedd yn iaith fyw er truenused ei chyflwr. Nid amheua'r neb a ddarlleno weithiau 0 Conaire nad oedd yn llenor da. Yr oedd yn sylwedydd craff a gallai bortreadu golygfa, digwyddiad a chym- eriad yn fyw iawn. Hynod gelfydd a chywrain yw gwead rhai o'i storiau. ac amlygant allu'r awdur i ddadansoddi darn o fywyd a phrofìad. Mewn dyn- ion yr ymddiddorai yn bennaf, ym mhobl Iwerddon yn arbennig. O Iw- erddon y cafodd ei olygfeydd, ei gymcriadau a'i brofiadau, a darluniodd y cyfan gyda chydymdeimlad artist. WTrth ddarllen ei weithiau, ni allwn lai nag ymglywed â'r tlodi, y caledi a'r chwerwder a nodweddodd fywyd y Gwy- del ers cenedlaethau ac a ddylanwadodd ar ei ddull o feddwl a'i agwedd at fywyd. Llwyddodd Mr. Williams yn ei gyfieithiad i gyfleu awyrgylch y gwreiddiol mewn Cymraeg llyfn ac ystwyth, er bod ôl cyfieithu i'w weld yn awr ac yn