Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Beynon, Abercraf, yn ei Esboniad ar y Salmau i'm meddwl. Wrth ymdrin â Salm LI (" Trugarha wrthyf, O Dduw, yn ôl dy drugar- owgrwydd," etc.), cyfeiria at y geiriau: Canys ni chwenychi aiberth; pe amgen, mi a'i rhoddwn: poethoffrwm ni fynni," etc. Y mae adnod olaf y Salm yn hollol groes i ysbryd y Salm ar ei hyd-" Yna y byddi foddlon i ebyrth cyfiawnder i boethoffrwm ac aberth llosg yna yr offrymant fustych ar dy allor." Tebyg i ryw olygydd, meddai Beynon, deimlo fod gormod o gondemnio ar y drefn aberthol, ac iddo ychwanegu adnod neu ddwy i unioni pethau. Sylw'r esboniwr ar hynny yw: Mawr yw cyfrifoldeb cyfnewidwyr emynau!" Amen, meddaf finnau Flynyddoedd lawer yn ôl, cyhoeddodd y Dr. Lewis Edwards ysgrif yn Y Traethodydd ar Gyfnewidwyr Hymnau." Pa hawl sy gan olygyddion, gofynnai, i newid gwaith yr emynwyr, a chyhoeddi eu meddyliau eu hun yn gymysg â meddyliau'r emynydd, heb fynegi p'le mae'r naill yn diweddu a'r llall yn dechrau? Wrth weld y fath gymysgwaith teimlai Dr. Edwards yr un fath â'r hen bregethwr hwnnw a ddwedodd wrth hen wreigan heb fod mor lanwaith ag oedd yn ddymunol, Pan ddelwyf fi yma'r tro nesaf, a fyddwch chi gystal â rhoi'r ymenyn ar un ddysgl, a'r blew ar ddysgl arall?" 0 drugaredd, y mae'n ddigon hawdd i'r cyfar- wydd wahaniaethu rhwng y 'menyn a'r blew, ond beth am y gyn- ulleidfa ddiniwed sy'n gorfod llyncu'r 'menyn a'r blew ynghyd? Y chwiw diweddaraf yw nid newid syniadau ac athrawiaethau'r emynydd, eithr cywiro'i gystrawen, yn enw glendid arddull. Beth sydd ma's o le, tybed, dros ganiatáu i gynulleidfa ganu geiriau David Charles fel hyn- Tydi wyt deilwng o fy nghân, Fy Nghrewr a fy Nuw; Dy ddoniau o fy amgylch maent Bob munud 'r wyf yn byw?" Ar Òl cwrso'r sgwarnog yna, yn ôl at y testun! Ar ddiwedd anerchiad Elfed ym Mhen-y-bont, bu trafodaeth frwd. Ategodd y diweddar Athro Ernest Hughes awgrym Elfed y gallai'r Gym- deithas Lyfryddol ymgymryd â'r gwaith; eithr dadleuai'r siaradwr presennol y dylid sefydlu cymdeithas annibynnol ar gyfer yr emyn. A dyna ddiwedd ar y mater, canys yn ôl ein harfer ni fel Cymry fe gladdwyd yr awgrym o gael Cymdeithas Emynau Cymreig. Mawr hyderaf y llwyddwn ni i atgyfodi'r corff yma heno!