Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFANSODDWYR A GOLYGYDDION CASGLIADAU EMYN-DONAU SIR FFLINT CYN belled ag y gwyddys, Ifan Wiliam, Llangybi, a John Williams, Dolgellau, oedd yr unig ddau a wnaeth gyfraniad sylweddol i gerddoriaeth eglwysig Cymru yn y ddeunawfed ganrif. Cyn 1800, ychydig iawn o gerddoriaeth Gymreig o unrhyw fath a oedd ar gael ar wahân i'r casgliadau o alawon cenedlaethol a gyhoeddwyd yn Llundain, ac nid yw felly yn peri unrhyw syndod bod safon cerddoriaeth yng Nghymru yn bur isel yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac na roes yr un Cymro ei fryd ar gyfansoddi o ddifrif tan tua chanol y ganrif honno. Dangosir yn eglur yn yr hen gylchgronau Cymraeg nad oedd gan y mwyafrif o'r rhai a fynychai le o addoliad yng Nghymru yn ystod 1820-1830 fawr o wybodaeth am ochr ymarferol y gelfyddyd gerddorol, ac mai prin iawn oedd y rhai a fedrai ddarllen cerddor- iaeth. Tystiolaeth y rhai a wyddent ryw gymaint am gerddoriaeth ac y gellir pwyso'n hyderus ar eu hawdurdod oedd bod cyflwr cerddoriaeth yn yr eglwysi a'r capeli yn warthus, a bod rhai lleoedd o addoliad,-yn arbennig felly yng ngogledd Cymru,-heb fod canu ynddynt o gwbl. Petai cerddoriaeth wedi cael hanner cymaint o sylw ag a gafodd llenyddiaeth yn eisteddfodau'r ddeunawfed ganrif byddai?r sefyllfa yn un bur wahanol, a'r rhwystrau a wynebai'r cerddor wedi eu symud o'r ffordd erbyn dechrau'r ganrif ddilynol. Ond fel yr oedd pethau, nid hawdd oedd gwaith y sawl a ymddiddorai mewn cerddoriaeth a chyfansoddi, a gellir yn hawdd ddeall paham mai ychydig o werin bobl y cyfnod a ddeallai gerddoriaeth. Ar wahân i'r ffaíth nad oedd i'r genedl draddodiad cerddorol fel y cyfryw, prin iawn oedd y patrymau y gallai'r gwŷr crefyddol hynny a ddymunai gynhyrchu hyd yn oed dôn gynulleidfaol syml eu dyn- wared, a chyn cyhoeddi Gramadeg Cerddoriaeth (J. Mills) yn 1838 nid oedd unrhyw werslyfr gramadeg cerddorol at wasanaeth y Cymro uniaith. Yng ngoleuni'r sefyllfa anfoddhaol hon a wynebai'r sawl a ymddiddorai mewn cerddoriaeth eglwysig yng Nghymru ym mlynyddoedd cynnar y ganrif o'r blaen y gellir sylweddoli ein dyled i nifer o arloeswyr diwyd yn y gwahanol siroedd a ymroesant i gynhyrchu tonau cynulleidfaol. Unwaith yr oedd y tonau hynny wedi cael eu hysgrifennu, yr unig ffordd i'w dysgu i'r cynulleidfa- oedd annysgedig oedd trwy gyfrwng y glust, a gofid mawr yw