Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Crynhowyd llafur a gwasanaeth y cyfansoddwr yn effeithiol gan Eifion Wyn yn ei hir-a-thoddaid buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug (1923) Â phuraidd dân cyffyrddwyd ei enau, Aeth ein caniadaeth a'i ieuanc nwydau; A'i huawdl, wiwdlws, ysbrydol olau Erys yn drysor i saint yr oesau; A'i ganu pur dug i'n pau-oes euraid: AnadSrwyd enaid cenedl i'w donau. Prestatyn Huw Williams [Anerchiad a draddodwyd yng nghyfarfod blynyddol y Gymdeithas ar faes yr Eisteddfod yn Fflint, Awst 1969.] GWEDDI AELOD EGLWYSIG Cryfha'r bywydol undeb â Thydi O, Ben yr Eglwys a'i Sylfaenydd hi; Gwneuthur fel tithau, holl ewyllys Duw 'Fo 'mwyd a'm diod, ymborth sanct fy myw. Dan dy lywodraeth 'r wy'n dymuno bod, Concra fewyllys 'styfnig er dy glod. Rho imi glust a glyw lef pawb dan bwn, A chalon a gâr gyrchu'r Bethel hwn. Pâr i mi weithio'n ddibaid1 yn dy law A chario'r Newydd Dwyfol yma a thraw; Hebot ni allaf fyw na gwneud dy waith,- Eiddot yw'r gallu cyfrin ar fy nhaith. Cryfha'r bywydol undeb â Thydi O, Ben yr Eglwys a'i Sylfaenydd hi, Fel caffo'r byd yr iachawdwriaeth fawr, Tithau dy ogoneddu ar bob awr. Llandeilo-fawr J. EDWARD Williams