Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AWDURAETH YN Y DYFROEDD MAWR A'R TONNAU "Y TRO NESAF y byddwch chwi'n canu 'Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau' mae'n debyg y byddwch chwithau hefyd yn amau ai Dafydd William, Llandeilo Fach, yw awdur yr emyn. "Yng Ngregynog darganfu Dr. Glyn Tegai Hughes yr emyn wedi ei sgrifennu ar wyneb-ddalen un o'r llyfrau a ddaeth yno 0 Lyfrgell Coleg y Bala. A'r enw gyda'r dyddiad 1777 wrth droed y pennill yn y llyfr sy'n bwrw amheuaeth ar awduraeth yr emyn. Mae'r pennill, y dyddiad, a'r enw yn yr un llawysgrifen, llaw- ysgrifen Dafydd Morris, Twr-gwyn (1744-91) Yn 1773 cyhoedd- wyd casgliad o'i emynau [D.M.], Can y Pererinion Cystuddiedig ar eu Taith tua Seion "Ymddangosodd 'Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau' gyntaf dan enw Dafydd William, yn y drydedd ran o Gorfoledd Ym Mhebytt Seion (1778) "Cyfeddyf Bedwyr Lewis Jones yn ei ddarlith 'Llenyddiaeth yr Emyn,' iddo ef gael cryn syndod pan ddangosodd Dr. Glyn Tegai Hughes yr emyn iddo yn llawysgrifen Dafydd Morris. Pwy biau'r emyn tybed? Dafydd William ynteu Dafydd Morris. Dau Ddafydd, dau ddawnus, ond pwy ddylai gael y clod?" Cyhoeddwyd yr uchod yn Y Cymro, 18 Chwef. 1970, a cheir darlun o'r pennill fel y'i ceir ar glawr llyfr y Deon Gregory Williams, The Right Way to the Best Relfgion, sydd yn awr yng Ngregynog. "Ceir enw Ebenezer Morris, mab Dafydd Morris, o dan enw'r Deon gyda'r dyddiad 'April 27th, 1799' Bu Mr. Llion Griffiths, golygydd Y Cymro, mor garedig â chyflwyno photograff o'r pennill imi, ac wele gopi ohono: Yn y dyfroedd mawr ar toneu nid oes neb a ddeil fy mhen Ond fy anwyl briod Iesu rhwn Fy farw ar y pren Cyfall (sic) iw yn afon angeu Ddeil fy mhen i yn ywch nardon (sic) Golw,g arno wna imi Ganu Yn yr afon ddofn hon D Morris 1777 Yn Y Cymro, 4 Mawrth 1970, cyhoeddwyd a ganlyn o'r eiddo Mr. Bedwyr Lewis Jones: yr ydych yn amau ai Dafydd William yw awdur y pennill enwog Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau,' a hynny am i Ddafydd