Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Cofier hefyd mai trydydd pennill emyn pedwar pennill yw Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau' yn Gorfoledd 1778 a'i fod yn ffitio'n berffaith yn ei gyd-destun yno. Duw, llefara wrth fy ysbryd Air yn ddirgel er Dy glod; Dan y groes ac yn y gofid Nerth i'r egwan wyt erio'd. Dyro imi odain eryr I hedeg tua'r Ganan wlad, A ffyddiog undeb â Dy Berson Sydd uwch cyrraedd cig a gwa'd. Nid oes gennyf ond Dy hunan Yn arweinydd ffyddlon im, Dan dy gysgod mae fy noddfa Yn y storom fwya'i grym. Cadw 'ng.olwg ar yr hafan Lle mae'm tynfa, doed a ddêl; Tiroedd hyfryd yr addewid, Gwlad yn Ilifo 0 laeth a mêl. Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau Nid oes neb a ddal fy mhen Ond fy annwyl Briod Iesu A fu farw ar y pren. Cyfaill yw yn afon angau A ddal fy mhen i uwch y don. Golwg arno wna imi ganu Yn yr afon ddofon hon. O fy enaid, disgwyl ronyn. Pa'd er dim â líwfwrhau. Er mynd trwy lawer brwydr galed Mae'r frwydr olaf yn nesau. Caf gyfarfod â'm cyd-filwyr Aeth trwy'r frwydr o fy mlâ'n Yn ssinio'r hyfryd fuddujjoliaeth O un galon a'r un gan. "Na, dal i dderbyn mai Dafydd William piau 'Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau' yr wyf fì." Mewn rhifyn diweddarach o'r Cymro ysgrifennodd Mr. Glyn Hopkins o Bontarddulais ar y pwnc, gan gyfeirio at y traddodiad ynghylch y pennill "Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau." "Gyda golwg ar yr hen draddodiad a adroddid am yr emynydd a'i bennill, rhaid imi ddweud fod pob fersiwn ysgrifenedig a welais yn wahanol iawn i'r hyn a glywais ei adrodd gartre' "Y mae'r gwahaniaeth sydd rhwng y fersiynau ysgrifenedig hynny a'r hyn a arferid ar lafar bro, yn wahaniaeth pwysig. Er enghraifft, nid i lan yr afon nac i'r penty yr aeth y noson honno,