Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gerllaw'r Ffynhonnau, ac yn Rhaiadr Gwy, Sir Faesyfed. Trevecca: Argraphwyd yn y Flwyddyn M DCC LXX. Tt. 84; 56 o emynau, a "Can Am y Farn ddiwedda; neu, Adgyfodiad y Cyfiawn a'r Anghyfiawn." Y mae i hwn ragymadrodd: "fe alle," meddai, "yr Hymnau diweddaf a gewch o dan Law'r gwael hwn fyth." 6. Y chweched ran o Ganiadau Seion; Neu Hymnau ac Odlau Ysprydol. Gan John Thomas, Gweinidog yr Efengyl Trefecca: Argraphwyd yn y flwyddyn MDCCLXXXVI. Tt. 36; 29 o emynau. Ar d. 2 ceir "Hyspysiad i'r Cyffredin" yn mynegi'r bwriad o "ail Argraphu, wrth Rag-daliad, yr holl Rannau ynghyd, yn un Llyfr; ynghyd â chwanegiad o Hymnau Newyddion eraill, a'i adael ymhlith fy Mrodyr, a'm Cyd-wladwyr, cyn yr elwyf ac na byddwyf mwy." Bydd y gyfrol honno'n cynnwys "o gylch 300 tu Dalen, a'i Bris fydd Deunaw- Ceiniog Wedi ei blygu a'i bwytho mewn Papur glâs; a dau Swllt wedi ei rwymo; y naill hanner i'w dalu ymlaen, a'r hanner arall wrth dderbyn y Llyfr." Ei gyfeiriad yw'r "Ty Coch, ger llaw'r Ffynhonnau, Plwyf Llan- Drindod, Sir Faesyfed," a'r dyddiad ar waelod yr hysbysiad, 24 Gorff. 1786. 7. Caniadau Sion: neu Hymnau Ysgrythurol a Phrof- iadol, i'w Canu yn Nghynnulleidfaoedd y Saint ynghyd â Chwanegiad o rai Marwnadau ac Odlau. Yr Ail Argraphiad. Gan J. Thomas, Gweinidog yr Efengyl. Trefecca: Argraphwyd, ac ar werth yno, a chan yr Awdwr, a chan Mr. John Thomas, Siopwr, yn Llannerch y Medd, Sir Fôn, a Mr. Owen Owens, Caernarfon. M, DCC, LXXXVIII. Tt. 288. Y cynnwys (a) Hysbysiad ei fod am gyhoeddi, "os einioes a gaiff" Ei Brofiad o Ddaioni'r Arglwydd tu ag atto, o ddyddiau ei ieuengctyd hyd yma" (t. ii); (b) rhagymadrodd (iii-v); (c) Tabl (vi-xi); (d) emyn agor- iadol, "Buddugoliaeth yr Óen ar Galfaria. &c (xii); 188 o emynau (13-248); (e) Marwnadau i Howel Harris a'i briod, Dafydd Jones o Gaeo (249-78); (f) nifer o Odlau (279-88); a (g) Errata (288). Yn y flwyddyn 1786 fe gyhoeddodd John Thomas gasgliad bychan o emynau Saesneg dan y teitl: Divine Hymns, and Spiritual Songs; To be Sung in Divine Worship. By John Thomas, Minister of the Gospel Trevecka: Printed in the Year MDCCLXXXVI. Y mae i'r llyfryn (24 tt.) ugain o emynau, rhai ohonynt wedi eu cyfaddasu o Caniadau Sion. O dan y 15fed emyn ceir "Licentia Pöetica" sy'n awgrymu mai emynwyr eraill biau'r gweddill, sef Isaac Watts, Charles Wesley, a William Hammond.