Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

E. T. DAVIES, BANGOR WRTH fwrw golwg dros y cyfangorff o emyn-donau'r diweddar E. T. Davies fe ddaeth i'm meddwl sylw T. S. Elliot: "Ni ellir gwahanu diwylliant yr unigolyn oddi wrth yr hyn sy'n eiddo i'r grwp; ac ni ellir datgymalu diwylliant y grwp oddi ar ddiwylliant y Gymdeithas gyfan." Mae'n debyg mai agwedd ar yr ymateb i'r gymdeithas y perthynai ef iddi oedd ei donau cynnar Hermon a Via Crucis, a hynny yn nhermau'r rhamantiaeth a'r sêl grefyddol a nodweddai Merthyr Tudful a Dowlais ar y pryd. Rhaid ganddo oedd creu tonau i ddarlunio'n gywir yr "Iorddonen ddofn" a'r "oedi'n nych- lyd" ar draul trysorau fel Moab a Caerllyngoed a Mannheim, a oedd ar gael yn barod yn Llyfr Tonau Ieuan Gwyllt. Fe aeth Hermon a Via Crucis yn wenfflam ar dân, megis, drwyr wlad, ond ni chynhwyswyd y dôn gyntaf yn Llyfr Emynau a Thonaur Meth- odistiaid Calfinaidd a Wesleaidd (1929) er i'r cyfansoddwr ei hunan weithredu fel aelod o'r Bwrdd Golygyddion. A chymryd safbwynt T. S. Elliot, fe ellir derbyn mai casgliad ar gyfer y grwp, neu ddosbarth arbennig, oedd Llyfr Tonaur Methodistiaid, ac er nad yw'r dôn Hermon ynddo nid yw hynny'n tynnu oddi wrth faint a sylwedd cyfraniad E. T. Davies iddo. Cyfrannodd naw o donau cynulleidfaol gwreiddiol i'r casgliad; 16 o drefniadau o alawon tonau (yn cynnwys y trefniant hynod o effeithiol o'r alaw Lydewig Pont L'Abbé; tair tôn blant (Kenneth, Pinner a John); ynghyd ag Arweiniol ('Intrada), gosodiad o "Weddi'r Arglwydd," deg salm-dôn, a dwy anthem wedi eu llunio'n arbennig ar gyfer cynulleidfaoedd. Yma, am y tro cyntaf mewn llyfr tonau enwadol, yr ymddangosodd Pontmorlais a Glyncastell, y naill ar eiriau J. T. Job ("Arglwydd nef a daear," &c.), a'r IlaIl ar drosiad Goronwy Owen o eiriau Collett ("Trwy droeau'r byd," &c.) yn defnyddio amseriad rhydd a olygai arddull braidd yn newydd i'n cynulleidfaoedd ar y pryd. Cymerodd Pontmorìais ei He wedyn yn Llawlyfr Moliant y Bedyddwyr (fel un o dair tôn o waith E. T. Davies), ond nis cynhwyswyd yn Y Caniedydd (lle y ceir Hermon a Via Crucis a'r dôn blant Kenneth) nac ychwaith yn Llyfr Emyn- au'r Eglwys (1951). Er synnu ohonom braidd nad yw Pontmorìais yn Llyfr Emyn- au'r Eglwys, fe ellir teimlo'n sicr fod rhesymau digonol am hynny.