Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y mae cyfraniad E. T. Davies i'r llyfr hwn eto yn helaeth ac yn bwysig. Nid gormod fuasai maentumio mai yma y cyrhaeddir pinacl ei gyfraniad i gerddoriaeth grefyddol. Ceir ganddo bump o donau cynulleidfaol nas cafwyd o'r blaen, ag eithrio Glastonbury Thorne a oedd wedi ymddangos yn Llawlyfr Moliant y Bedydd- wyr, a'r dôn blant Kenneth, a threfniadau o alawon yn cynnwys Aberfan (yr alaw gan Robert Jones, Merthyr Tudful) a Gwêl yr Adeilad (trefniant o'r hen alaw Gymreig). Neilltuwyd y ddwy dôn olaf i'r adran "Canu Crefyddol y Cymry trwy'r Canrifoedd" He y ceir hefyd nifer o Gorganiadau o'i waith wedi eu cyfansoddi yn null plaengân a'u cynganeddu unol â naws hynafol y geiriau, "Gogonedog Arglwydd" o Lyfr Du Caerfyrddin (c. 1200), "Mab a'n rhodded," &c. (gan y Brawd Madog ap Gwallter, c. 1250), "Pwy yw'r Gwr piau'r Goron" (Gruffudd Gryg, c. 1350-1412), &c. Dyry hyn oll, yn Llyfr Emynaur Eglwys a'r Llyfr Tonau enwadol, at ei gilydd dros 25 o donau gwreiddiol o waith E. T. Davies, ynghyd â 14 o drefniadau o alawon tonau ac alawon gwerin, &c. Nid oes diben i mi geisio cymharu nifer y tonau a gyfansoddodd â'r hyn a gafwyd gan rai cyfansoddwyr Seisnig megis Dr. J. B. Dykes, Samuel Wesley ac eraill. Gwyddom yn sicr fod ei gyfraniad yn bwysig i ni fel Cymry, a hynny o safbwynt cyr- haeddiad yn ogystal â maint, a'i fod yn arwyddocaol, hefyd, gyda golwg ar y diwylliant cerddorol Cymreig, y sydd, fel pob gwir ddiwylliant arall, yn gymdeithasol yn y bôn ond yn ffynnu mewn unigolyn. D. E. PARRY Williams Y gwir yw mai efelychiadol hollol yw ei ddelweddu, iddo eu cael yn ddieithriad bron o'r Beibl—o'r Proffwydi, a Salmau, y Galarnad, y Can- iadau, Job a'r Datguddiad, y cynghorodd brentisiaid o emynwyr 'i'w darllen drachefn a thrachefn.' Mae'n bur amlwg, gan mai emynau i'w canu gan gynulleidfaoedd ledled y wlad oeddyat, fod y Beihl yn gyfarwydd, ac mai ychydig os dim trafferth a geid i ymateb yn rhwydd i'r gyfeiriadaeth. Erbyn hed'diw, a gwybodaeth Feiblaidd yn brin, mae Williams i'r mwyafrif mor 'anodd' â'r beirdd 'modern,' a gondemnir mor llym. Er cydnabod y gellir mwynhau'r emynau lawer ohonynt yn gymharol hawdd heb wybodaeth Feiblaidd, mae gwybod tarddiad y delweddau'n dwysau'r mwynhad. Ei ddelweddau amlaf — ac fe'u ceir yn aml iawn-yw nyth, gwledd, manna, gwin, tWr, afon, mynydd, diliau mêl, corlan, brefu, pren y bywyd, cedrwydd, palmwydd (nid derw na masarn nac ynn!) ar y naill law i gynrychioli'r hyfrydwch ysbrydol, a draig, gelyn, byddinoedd, banerog lu, cled'd, sarff, gwenwyn ar y Haw arall i gynrychioli ymgyrch Satan ar fywyd. — J. Gwilym Jones, William Williams, Pantycelyn.