Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

emynwyr ac emynyddiaeth ymhlith ei ddiddordebau, ac ef a olygodd yr ail gyfrol o Weithiau Pantycelyn (Caerdydd: 1967). Wele restr o'i gyfraniadau ar emynyddiaeth: "Thomas Dafydd, Un o Emynwyr Sir Gaerfyrddin." Cylch. Cymdeithas Lyfryddol Cymru, vii, rhif 2 (Gorff. 1951). "Emynyddiaeth Gynnar yr Ymneilltuwyr." Llên Cymru, ii, rhif 3 (Ion. 1953. "Emynyddiaeth yr Hen Ymneilltuwyr hyd 1811." Cylch. Cym. Lyfryddol Cymru, viii, rhif 2 a 3 (Gorff. 1955 a Gorff. 1956). "Emynyddiaeth yr Eglwys Fethodistaidd." Bathafarn, rhif 12 a 13 (1957, 1958). Adolygiad ar Fwletin Cymdeithas Emynau Cymru, Rhif 1. Trafodion Cym. Hanes y Bedyddwyr, 1968. Gwyddai ei gyfeillion ei fod yn nychu, ond ni feddyliodd neb ohonom y câi ei dorri i lawr mor gynnar. Bu farw 16 Medi 1969 yn Ysbyty Brompton, Llundain, a chladdwyd ef ym mynwent gyhoeddus Aberystwyth. Cydymdeimlwn â Mrs. Hughes ac ag Ann, ei unig ferch. G.M.R. 4. Dyddlyfr Griffith Harris, Caerfyrddin. Yn Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940, dywedir fod Griffith Harris (1813-92), Caer- fyrddin, "yn gerddor da, ac yn arweinydd y canu yng nghapel (Methodistiaid Calfinaidd) Heol Dwr." Yn 1849 cyhoeddodd Griffith Harris gasgliad o 270 o donau dan y teitl Halelwiah; sef Casgliad o Donau, at wasanaeth yr Addoliad Dwyfol (Caerfyrddin, M. Jones). Daeth dyddlyfr Griffith Harris i'm meddiant yn ddiweddar, oddi wrth ei wyres, sy'n byw yn Rhodesia. Yn hwn y mae rhestr o 164 0 lyfrau tonau a bwrcaswyd ganddo. Ar gais golygydd y Bwletin, nodais y casgliadau Cymreig, gan nodi hefyd y rhif sydd ar eu cyfer yn y rhestr. A list of Tune Books &c. bought by me 80. Parry's Peroriaeth Hyfryd 81. D° Tonau o'r Goleuad 83. Mill's Caniadau Seion 84. D° Attodiad D° 85. Owen Williams Anglesea 86. Alawydd Trefriw 87. Richard's Cyfaill Cantorion 88. Mill's Cerddor Eglwysig 89. D° Attodiad 90. Beynon's Telyn Seion