Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hymnau ar amryw achosion. "Y mae y tri uchod," meddir, "yn un llyfr; ond bod gwyneb-ddalen i'r ddau olaf hefyd." Y mae copi o Hymnau ar Amryw Achosjon yn fy meddiant, sef llyfryn bychan o wyth o dudalennau, yn cynnwys wyth o emynau. Dyma'r testunau: (1) Hymn Foreuol; (2) Hymn Brydnhawnol; (3) Hymn am Ffydd; (4) Hymn ynghylch Hunanymholiad; (5) Hymn o flaen Swpper yr Arglwydd; (6) Hymn yn ôl y Sacrament; (7) Hymn i'n cyfarwyddo i ymbarotoi cyn dêl Angau; ac (8) Hymn arall o'r un Defnydd. Ceir y pumed emyn yn Llawysgrif Llangeitho o Emynau (N.L.W. MS. 5984B), a gwyddys mai David Jenkins, curad Cellan yn sir Aberteifi, a fu farw yn 1742, biau'r emyn olaf. Dyma'i bennill cyntaf: O Rhown ein Serch, Gŵr, Gwraig, Mab, Merch, ar bethau gwiwserch uchod: Na rown mo'n Bryd ar Bethau'r Byd, daearfyd, sydd yn darfod. Gwelais yr emyn hwn mewn mwy nag un casgliad o emynau cynnar (gw. y Mynegai i'm hail gyfrol ar Bantycelyn). Dyma'r emyn i'w ganu o flaen Swper yr Arglwydd, yn ei grynswth, fel y gallo'r darllenydd gael syniad o natur y canu emynyddol cynnar yma: Deuwch, ffyddlon rai, nesêwch mewn Hêdd; mae ymma Wlêdd arbennig 0 Basgedigion wed' eu trîn, a gloyw Win puredig. Amgylchwch y Sancteiddiol Fwrdd; cewch gwrdd â'ch Prynwr Jesu: A Llawnder o Gyssuron da sydd ymma i'ch groesawu. Maddeuir eich Pechodau'n rhâd, trwy Wa'd trag'wyddol Ammod: Tangnefedd Duw, a'i Gariad mawr, ddaw 'lawr i lân Gydwybod. Rhag Clwyfau'r Enaid o bob rhyw gan Dduw cewch Feddyginjaeth; A rhag Gelynjon cryñon câs, trwy Râs, cewch Waredigaeth. Fe selir i chwi Heddyw 'nghyd y Golud anchwiliadwy; A dygir chwi ar fyr yn llon i Sïon i'w meddianu. Byddwn yn dra diolchgar pe cawn i unrhyw wybodaeth bellach am y casgliad bychan diddorol a phrin hwn o emynau. G.M.R.