Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFARFOD BLYNYDDOL 1969 Cynhaliwyd y Cyfarfod Blynyddol ym Mhabell y Cymdeithasau ar Faes Eisteddfod Genedlaethol y Fflint, brynhawn dydd Iau, Awst 7 1969, a'r Llywydd, Mr. E. D. Jones, yn y gadair. Anerch- wyd y cyfarfod gan Mr. Huw Williams, Prestatyn (awdur y ddwy gyfrol ar donau a'u hawduron) ar y testun "Cyfansoddwyr a Golygyddion Casgliadau Emyn-donau Sir Fflint." Canwyd engh- reifftiau o'r eiddo rhai o'r cyfansoddwyr gan Miss Eluned Williams. Cafwyd nifer o aelodau newydd, ac y mae bron 200 yn perthyn i'r Gymdeithas yn ei thrydedd flwyddyn. Cyhoeddwyd hefyd ail rifyn y Bwletin, dan olygyddiaeth y Parch. Gomer M. Roberts. Trefnwyd ar gyfer Cyfarfod 1970 yn Rhydaman. Gwahoddwyd yr Athro D. Eirwyn Morgan, Bangor, i annerch ar "Nantlais, Emynydd." Y cyfarfod i'w gynnal yng Nghapel Bethany, yn ymyl Maes yr Eisteddfod. D. Eirwyn Morgan, Ysgrifennydd CYFARFOD BLYNYDDOL yng NGHAPEL BETHANY, RHYDAMAN PRYNHAWN MERCHER, AWST 5, 1970 am 5 p.m. Cadeirydd: Mr. E. D. Jones, C.B.E., B.A., F.S.A. (Llywydd y Gymdeithas) I annerch: Yr Athro D. Eirwyn MORGAN, M.A., B.D., Coleg y Bedyddwyr, Bangor: "NANTLAIS, EMYNYDD" Cenir emynau o waith Nantlais gan Gôr o Blant Ysgolion Sul Rhydaman. Cyfarfod Busnes i ddilyn. N.B.-Cyferfydd y Pwyllgor am 4.30 yng Nghapel Bethany. D. EIRWYN MORGAN, Ysg.