Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

[Casglodd y Parch. John Roberts, Caernarfon, naw fersiwn Gymraeg o Salm y Bugail. Ychwanegwyd atynt gan yr Athro D. Eirwyn Morgan, Bangor, Mr. Derwyn Jones, Y Llyfrgell, Coleg y Brifysgol, Bangor, a'r Golygydd. Diau fodJ rhai eraill ar gael.] Yr Arglwydd yw fy Mugail clau, Ni ad byth eisiau arnaf; Gorwedd a gaf mewn porfa fras, Ar lan dwfr gloywlas araf. Pe rhodiwn, mi nid ofnwn hyn, Ym nyffryn cysgod angau; Wyt gyda mi, a'th nerth a'th ffon; Ond tirion ydyw'r arfau? O'th nawdd y daw y doniau hyn I'm canlyn byth yn hylwydd; A minnau a breswyliaf byth, A'm nyth yn nhy yr Arglwydd'. Fy Mugail (dyfal) yw Duw'r nef, Fe edrych Ef amdanaf; Fy eiddo yw, a'i eiddo wyf, P&eisiau mwy sydd arnaf? Od af o'i ffyrdd fel (dafad) ffôl, Fy enaid 'n ôl a eilw; Ac arwain fi yn llwybrau'r praidd Er mwyn Éi sanctaidd env. Er gwaetha (malais) fy holl gas Fy mwrdd yn fras gosodaist; O'th fendith llawn yw m ffîol hon, A 'mhen i'n llon dyrchefaist. Yr Arglwydd yw fy Mugail da, Fe a'm diwalla'n hollol; Mi a gaf bopeth gan fy Nhad, Yn rhad, fo'n angenrheidiol. Fe ddychwel f'enaid o bob man rw gorlan, enwog arlwy; Yn ffyrdd cyfiawnder fe rydd im Ryw hynod rym i dramwy. SALM XXIII. 1 Fe goledd f'enaid, ac a'm dwg 'R hyd llwybrau diddrwg, cyfion; Er mwyn Ei enw mawr di-lys, Fe'm tywys ar yr union. Gosodaist Ti fy mwrdd yn fras, Lle'r oedd fy nghas yn gweled; Olew i'm pen, a chwpan llawn, Daionusi iawn fu'r weithred. EDMWND PRYS (1554-1623). 2 Fe'm dwg i'r lleoedd (tirion) da, Lle tyf y borfa nefol; Lle llifa iechydwriaeth lawn, A'r dyfroedd rhadlawn bywiol. Tra rhoddo (Ef Ei) gymorth im Nid allaf ddim arswydo; Er mwyn trwy gysgod angau, ca' Fy Mugail da i'm gwylio. Haelioni'th (ras a'th) gariad Di A gaiff goroni 'nyddiau; I'fh dy'n wastadol mynnaf fod I draethu'th glod a'th wyrthiau. Dr. WATTS, cyf. DAFYDD JONES o Gaeo (1711-77). 3 Fe'm dwg i orwedd gyda'i braidd I'r borfa iraidd orau; A cherllaw'r dyfroedd tawel, Duw A'm harwain i'w dymhora- Nid ofnaf niwed byth am hyn Ar waelod glyn marwolaeth; Ond af a phwysaf ar y ffon O dirion Iechydwriaeth.