Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn y ddeunawfed ganrif, cynhyrchid llyfrau gan argraff dai heb eu rhwymo. Oni rwymid hwy yn ddiweddarach gan y sawl a'u prynai, byddai perygl i'r ddalen gyntaf a'r olaf gael eu rhwygo a'u treulio, neu yn wir fyned ar goll yn gyfangwbl. Gan fod y ddalen gyntaf yn aml yn ddalen-deitl ac yn cynnwys gwybodaeth hanfod- ol i ddisgrifiad cyflawn o'r gwaith, mae ei habsenoldeb yn creu problemau i lyfryddwyr. Cyfyd y fath broblem ynglŷn â chyfrol yng nghasgliad Syr John Williams yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (rhif W.B. 7545). Y mae'r gyfrol hon, sef cyfrol octafo yn cynnwys tt. 32, yn gyf- lawn heblaw am y ddalen-deitl. Nid oes ychwaith na theitl-parhaol na rhagair i'n cynorthwyo fw disgrifio. Y mae ynddi ddeunaw o emynau, a cheir pob un o'r rhain mewn casgliadau o emynau a ysgrifennwyd gan Morgan Rhys o Lanfynydd (1716-79), ac a gyhoeddwyd c. 1770-74. Ymddengys yr emynau i gyd, ac eithrio pedwar, yn Golwg ar y ddinas Noddfa. Gan Morgan Rhys. Caerfyrddin: Argraphwyd gan I. Ross, 1770, a dyma restr gyf- atebol ohonynt: Ymddengys emynau rhif XII-XIV fel emynau IV-VI yn Grìdd- fannaur credadyn am berffeithrwydd ac anllygredigaeth. Gan Morgan Rhys. Ni cheir argraffnod yn y gwaith hwn ond awgryma'r teip a'r addumiadau mai John Ross yn 61 pob tebyg a'i argraffodd yng Nghaerfyrddin, a chrybwyllwyd 1773 fel dyddiad posibl. Ym- ddengys emyn rhif XV fel rhif XII yn Y Frwydr ysbrydol: mewn casgliad o hymnau newydd, ar amryw fesurau. Gan Morgan Rhys ARGRAFFIAD ANADNABYDDUS O EMYNAU GAN MORGAN RHYS O LANFYNYDD I = I II = II (gyda dau bennill ychwanegol ar y diwedd) III = VIII IIII = XII V = XIII VI = XIV VII = XV VIII = XVI IX = XVII (penillion 1-7) X = XVII (penillion 8-12) XI = XVIII XVI = VI XVII = IX XVIII = IV (gyda phennill ychwanegol ar y dechrau).