Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

a Thomas Dafydd. Ni cheir argraffnod yma chwaith ond y mae'n ddigon posibl i'r gwaith gael ei argraffu gan Ross, tua 1774. Mae gosodiad yr emynau yn fwy destlus o lawer yn y tri gwaith a enwyd uchod nag yn y gyfrol dan sylw. Dyma un pennill fel enghraifft Emyn V. (Y gyfrol dan sylw) Daw diwedd a'r ein taith, Daw blwyddyn ein rhyddhad: A brynodd Gwâed yr Oen; Y tŷ o bridd â'n friw i'r líawr Ni laddwn filoedd a'r un Awr. Emyn XIII. Golwg ar y ddinas Noddfa. Daw diwedd ar ein taith drafferthus faith a'n poen, Daw blwyddyn ein rrhyddhad, a brynodd gwaed yr Oen; Y ty o bridd â'n friw i'r llawr, Ni laddwn filoedd ar un awr. Onid oedd y gwaith dan sylw yn argraffiad o emynau Rhys a ymddangosodd heb ei ganiatâd ('pirated edition'), y mae lle i gredu iddo ymddangos cyn y tri chasgliad o emynau y soniwyd amdanynt eisoes. Y mae'r argraffu yn amaturaidd iawn, gyda llinellau nad ydynt bob amser yn union, teip wedi treulio, incio gwael, a gosod- iad diddychymyg. Y mae'r teip, llythrennau breision, yn debyg i un math o deip a ddefnyddid tua 1720-30 gan Nicholas Thomas, argraffydd yng Nghaerfyrddin. Ceir pedair dalen ym mhob cyf- adran, a llyfrnodau ar y ddwy gyntaf. Mewn gwirionedd, y llyfr- nodau yw'r elfen daclusaf yn yr holl lyfr. Dilynir hwy yn aml gan bwynt llawn, ac y mae hynny yn anarferol. Defnyddir cadwyn- eiriau, ac eithrio yng Nghyfadran C, ac y mae trefn y tudalennau yn rheolaidd. Ni chafwyd rhyw anhawster mawr i brofi mai Morgan Rhys oedd awdur yr emynau yn y gyfrol dan sylw, ond anos yw pen- derfynu pwy a argraffodd y gwaith. Yr unig argraffydd a ddefnydd- iai deip a gosodiad yn cyfateb i'r hyn a geir yn y gyfrol hon oedd y Nicholas Thomas a enwyd uchod, ond gellir ei anwybyddu ef oher- wydd bu farw yn 1741. Gellid hefyd awgrymu enwau Evan Powell o Gaerfyrddin (yn argraffu 1752 — 65), Elizabeth Farley o Fryste (yn argraffu 1754-67), John Ross o Gaerfyrddin (yn argraffu 1762- 1807), a Rhys. Thomas (yn argraffu yng Nghaerfyrddin 1760-c. 1764, ac yn Llanymddyfri 1764-71). Yr oedd Elizabeth Farley a John Ross yn argraffwyr medrus, a chredaf mai go brin y cynhyrch- id gwaith mor ddiofal gan un o'r ddau hyn. Argraffwyd un o weith- iau Morgan Rhys, sef Golwg o ben Nebo, gan Elizabeth Farley yn Drafferthus1 maith a'n poen,