Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EMYN GOSBER T. GWYNN JONES Yn ddiweddar, yng ngholofnau Y Goleuad (23 Chwef. a 12 Eb. 1972), ymddangosodd gohebiaeth ynghylch yr emyn tlws uchod. Fe'i ceir ef yn Llawlyfr Moliant y Bedyddwyr, 1952, ac yng Nghan- iedydd yr Annibynwyr, 1960. "Nid yw'r llinellau yn y Llawlyfr Moliant a'r Caniedydd yn hollol fel y maent yn y gwreiddiol", meddai'r Parch. William Morris. "Ychydig yw'r gwahaniaethau; dyma hwy, gan ddilyn y gwreiddiol: Pennill 1, llinell 2: "Pan fo'r cysgodion. Eto, llinell 4: "Rho olau haul. Pennill 3, llinell 2: "A maint eu holl ffolineb. Ond ym mhle y ceir y gwreiddiol, a pha bryd y cyhoeddwyd ef? Daeth yr ateb oddi wrth Dr. T. Ifor Rees, Bowstreet, Ceredigion. "Ysgrifennwyd Emyn Gosber gan y diweddar T. Gwynn Jones pan breswyliai yn yr Hafan, Bowstreet (Nantafallen) yn y tri degau, ac yn aelod o Eglwys y Garn. Ysgrifennodd ef ar gais fy nhad (y diweddar J. T. Rees, Mus. Bac.), i'w gynnwys yn y llyfryn Iesu Biau'r Gân. Yn y llyfryn hwn yr ymddangosodd am y tro cyntaf." Anrhegodd Dr. T. Ifor Rees fi â chopi o lesu Biau'r Gân, a gy- hoeddir (heb ddyddiad arno) yn Nhonypandy gan Evans a Short. Yn 1939, y mae'n debyg, y cyhoeddwyd ef. Cafwyd gwybodaeth bellach oddi wrth Mr. Arthur ap Gwynn sy'n cynnwys y manylion a ganlyn am y gwahanol brintiadau o'r emyn: 1. Yn lesu Biaur Gán (J. T Rees), 1939, t. 79. 2. Y Goleuad, 31 Ion. 1940, t. 1. 3. Yr Eurgrawn, Ebrill 1940, t. 120. 4. Cerdyn Coffa, angladd T.G.J., ym Mawrth 1949. 5. Y Tyst, 24 Mawrth 1949, t. 1. 6. Llawlyfr Moliant y Bedyddwyr, 1952, emyn 162. 7. Y Caniedÿdd, 1960, emyn 163. 8. Yr Eurgrawn, Haf 1970, t. 84. 9. Y Goleuad, 2 Chwef. 1972, t. 1. "Un peth arall a grybwyllir gan Mr. Arthur ap Gwynn", medd- ai'r Parch. William Morris. "Yn y trydydd pennill, yr ail linell yn gywir yw: 'A maint eu holl ffolineb hwy.' Tr wyf yn sicr meddai yn ei lythyr, 'na sgrifenasai fy nhad byth "ffohnebau" — yr oedd o yn erbyn ffurfiau fel "diddordebau" a ffurf- iau lluosog ar eiriau haniaethol e^aill^ G.M.R.