Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PYTIAU Wrth sôn am 1arddoniaeth emynau, nid awgrymir bod' math arbennig o farddoniaeth, na chelfyddyd neilltuol, i'r dosbarth hwn o brydyddiaeth. Un farddoniaeth sydd, ac nid oes gofynion artistig arwahân i wahanol fathau o ganu yn y mesurau rhyddion. Yn y cyffro, yn natur yr ysbrydoliaeth (fel y'i gelwir) v mae unrhyw wahaniaeth a ddigwydd fod. Y mae'n sicr mai cread- igaeth farddonol y nwyd grefyddol ydyw emyn pur. Y mae'n bosibl hefyd, bod y nwyd hon yn brinnach na'r nwydau eraill sy'n cyffroi beirdd i gyfan- soddi. Cyffro angnyffredin ydyw gwir gyffro crefyddol, nwydus. Fe ddywedir yn aml nad oes eisiau bardd mawr i gyfansoddi emyn da. Ond y gwir yw, os yw emyn yn fawr awenyddol, fod y cyfansoddwr yn fardd mawr-am y tro, beth bynnag. Ac fe all emyn fod yn boblogaidd heb fod yn dda. T. H. Parry-Williams, Lloffion (1942). y # # # # Yr ydym ni yng Nghymru yn ymwybodol iawn o'r duedd sydd dros y Clawdd, ymhlith beirniaid llenyddol Saesneg, i beidio ag ystyried yr emyn yn rhan safonol 0 lenyddiaeth. Iddynt hwy rhyw fodd llenyddol an-llenyddol ydyw y gellid cyfeirio ato mewn nodyn godre neu ymddiheuro yn ei gylch cyn brysio ymlaen i drafod llenyddiaeth seciwlar go iawn. Hawdd dean anawsterau'r Sais. I'r Cymro yntau y mae anhawster arall wedi oodi. Hyd yn gymharol ddiweddar, 'roedd ef yn rhy gyfarwydd ag emynau am resymau "anllenyddol", ac yr oedd ganddynt iddo gysylltiadau teuluol a hyd yn oed ysbrydol mor gryf fel na ellid eu beirniadu fwy nag y gellid beirniadu plwm pwdin mam. Eto, gŵyr pob Cymro, er ei waethaf, mai emynau yw cynnyrch llenyddol gorau y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ac er iddo gael ei ddenu i'w hosgoi, a chyfyngu ei feirniadaeth lenyddol i ganu seciwlar, y mae'r corff hwn o lenyddiaeth yn rhythu arno ac yn ei herio o hyd. Bobi Jones, Pedwar Emynydd (1970). Tybed a oes, lawer i'w ddewis rhwng y Cymro a'r Sais? Tan yn ddiweddar, gyda rhai eithriadau clodwiw, faint o sylw a roddwyd i draddod- iad yr emyn gan ein beimiaid llenyddol, a'n Colegau Prifysgol? Ychydig a wnaed gan adrannau Cymraeg ein Prifysgol i gyhoeddi aTgraffiadau ysgol- heigaidd o weithiau ein hemynwyr. Araf i'r eithaf maen' hw'n dod i ben a chyhoeddi gweithiau Pantycelyn; a'r ganrif ddiwethaf, a ddilornwyd gymaint gan ein hysgolheigion, wedi llwyddo i gyhoeddi dau argraffiad o'i holl weithiau-cyfrolau hafal Jones a Kilsby Jones. Credaf, ei bod yn deg cofio mai rhan fechan o'r traddodiad llenyddbl yn Lloegr yw'r emyn, ond yng Nghymru fe fyddai'n anodd ei anwybyddu. Tynnwch yr emyn o'n hetifeddiaetn lenyddol yn y cyfnod wedi'r Diwygiad Protestannaidd, ac ychydig ddigon sydd air ôl, ac y mae hyd yn oed hwnnw â Haw crefydd yn drwm arno; dim o'i le yn hynny. ANEURIN TALFAN Davies, yn Barn, Ionawr 1971.