Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADRODDIAD YR YSGRIFENNYDD, 1971 Cynyddu a wnaeth yr aelodaeth eleni eto. Dosbarthwyd 300 o gopiau o'r Bwletin. Diolchwn i'r Parch. Gomer M. Roberts am ei olygyddiaeth. Rhestrwyd aelodau 1967—71. Bu Cyfarfod Cyhoeddus llwyddiannus yn Eglwys Llandygái brynhawn Mawrth, Awst 3. Llywyddwyd gan Mr. Aneurin Talfan Davies, un o arloes- wyr y Cymdeithas. Cafwyd anerchiad ysgolheigaidd gan Mr. J. Gwilym Jones, Y Groeslon, ar "Yr Emyn fel Llenyddiaeth." Diolchwyd iddo gan Ysgrifennydd y Gymdeithas, a ddymunodd yn dda iddo ar drothwy ei ym- ddooliad, wedi cyfnod anghyffredin o ddylanwad yn Adran y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor. Yn y Cyfarfod Busnes, ail-etholwyd y Swyddogion, a threfnwyd Cyf- arfodydd Cyhoeddus 1972 a 1973. Coffawyd yr aelodau a fu farw yn ystod y flwyddyn, ac yn arbennig, un o'r aelodau cyntaf, Mr. D. B. Jones, Bae Colwyn. Llongyfarchwyd1 y Parch. Gomer M. Roberts ar flwyddyn lwyddiannus yng nghadair Sasiwn y De, a'r Parch. D. Eirwyn Morgan ar ei benodi yn Brifathro Coleg y Bedyddwyr, Bangor. Diolchwyd i'r Ficer am ganiatâd i gynnal y cyfarfod yn yr Eglwys. D. Eirwyn MORGAN. Y CYFARFOD BLYNYDDOL Yn y Babell Lên, Maes yr Eisteddfod Genedlaethol, Hwlffordd, Pnawn Iau, Awst 10, am 5.30 p.m. Cadeirydd: Dr. E. D. JONES, C.B.E., B.A., F.S.A., Llywydd y Gymdeithas. I Annerch: Y Parch. GOMER M. ROBERTS, M.A., Llandybie, (Golygydd y Bwletin) EMYNWYR DYFED Cyfarfod Busnes i ddilyn. Cyferfydd y Pwyllgor am 3.30 p.m., yn y Babell Lên. D. Eirwyn Morgan, Ysgrifennydd. Coleg y Bedyddwyr, Bangor. (Tel. Bangor 2608).