Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Byrfoddau D—Y Drysorfa. EC-Enwogion Ceredigion, Benjamin Williams. H.C.—Hanes Canu Cynulleidfaol Cymru, R. D. Griffith. J.T.-John Thomas Llanwrtyd, Evan Evans. (O.N. Dymunaf ddiolch i'r cyfeillion diwyd yn y Llyfrgell Genedlaethol, yn enwedig Miss Rhiannon Francis Roberts a Mr. Ceris Griffith, ac i Mr. Derwyn Jones a Mr. Huw Williams ym Mangor am eu cymorth parod i gasglu defnyddiau a gwybodaeth. Diolch hefyd i Mrs. Terry Thomas, Aberteifii, am ei chymorth gwerthfawr ar yr organ, trwy chwarae rhai o donau'r ddau gerddor yn ystod y ddarlith.) Aberystwyth. HARRI Williams POPETH GLÂN A PHRYDFERTH Popeth glân a phrydferth. A phob creadur byw, Popeth doeth a rhyfedd, Fe'u crewyd oll gan Dduw. Pob blodyn bach sy'n agor, Pob deryn bach a gân, Gwnaeth Ef eu gloyw liwiau, A'u tlws adenydd mân. Y mynydd o liw'r porffor, Yr afon fach gerllaw, Y machlud haul a'r bore, A'i fwyn oleuni draw. Yr oerwvnt yn y gaeaf, Yr hafaidd haul a'r yd, Yr ardd a'i ffrwythau aeddfed — Efe a'u gwnaeth i gyd. Y coed mawr yn y goedwig, Y glaswellt yn y pant, Y brwyn ar fin yr afon, A bwrlwm pêr y nant; Rhoes lygaid in i'w gweled, A thafod a fawrha Dduw Iôr yr Hollalluog A wnaeth bob peth yn dda. C. F. ALRXANDER (1823-95). Cyf. J. OWEN, Llanfairfechan.