Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HUGH JONES, AMLWCH (fl. 1788) Emyn rhif 913 yn Llyfr Hymnau unedig cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd, arg. 1869 ac ar ôl hynny, yw emyn un pennill gan 'H. ab I. sef Hugh Jones, Amlwch, "Cenir yno am y gwaed." Ceir y pennill hefyd, mewn fersiwn beth yn wahanol, yn Y Caniedydd, arg. 1895 yn rhan o emyn 683 (emyn 801 yn Y Caniedydd newydd 1921). Aelod blaenllaw yng nghynulleidfa'r Methodistiaid yn Amlwch, ym mlynyddoedd olaf y 18 ganrif oedd yr awdur,-gweler John Pritchard, Methodistiaeth Môn (1888), tt. 74 a 136. Ef, mae'n debyg, yw "Mr. Hugh Jones, Mason, Amlwch, Poet" a enwir ym- hlith tanysgrifwyr Gardd o Gerddi Twm o'r Nant yn 1790 ac a gyfrannodd englyn cyfarch ar ddechrau'r gyfrol honno. Yn 1788 cyhoeddwyd llyfryn bychan 16 tudalen o'i waith o wasg Richard Marsh, Wrecsam, Dwy Farwnad; Am rai Cyfeillion, sef Catherine Pritchard, gwraig Cornelius Pritchard, o gynulleidfa Lletrod, Pen-y- sarn, a William Williams a John Prichards "o Society Amlwch." Yn y llyfryn cynhwysodd ddau emyn. Dyma'r cyntaf,- Yn y byd lle rwi fy nuw mai gelynion, Arhaini n fwy tra fyddwi byw ei dichellion, Dyscg fi 'nerthu yn dy râs anwyl Iesu, Fel y gallwi ddal imaes ai gorchfygu. Fe ddaw terfyn ar ein taith yn yr anial, Gorffwys gawn oddiwrth ein gwaith mewn Ile tawel, Yno cawn y palmwydd gwyrdd gyda'r saintia,' Yn y man lle mola myrdd y iehofa. Yno'n wastad y cawn fod gyd a'r Iesu. Yn datseinio maes ei glod a'i ryfeddu, Gwedi crwydro yma 'th raw trwy'r anialwch, Cawn orffwys ar ei ddeheu law mewn tawelwch. Fe genir yno am y gwaed a flotiodd feia', Ag am y goncwest mawr a gaed ar galfaria. Am iddo fynd i lawr ir bêdd a chyfodi, Yno byddwn ar ei wedd yn ei foli. Daeth y pennill olaf yn boblogaidd yn syth. Mae John Pritchard yn Methodistiaid Môn, tt. 97-8 yn cofnodi hanesyn am ganu'r pennill ar ddiwedd ysgol ddarllen ar noson waith yn Llanfair Pwllgwyngyll tua 1794, a hynny'n peri i orfoledd mawr dorri allan, "a pharhaodd y gorfoledd hyd foreu dranoeth."