Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cynhwysodd Robert Jones, Rhos-lan y pennill, wedi ei newid ychydig (e.e. newid flotiodd y pennill olaf i gliriodd), mewn emyn cyfansawdd chwe phennill yn Grawn-syppiau Canaan-Hymn ccix yn arg. 1795. Yno mae'n bedwerydd pennill yn dilyn pennill Edward Parry, Brynbugad, "Caned nef a daear lawr." O'r fan hon fe godwyd pennill Hugh Jones a phennill Edward Parry i Casgliad o Salmau a Hymnau Roger Edwards ac Eben Fardd, arg. 1857, emyn rhif 159, ac yna i gasgliadau poblogaidd eraill-fel Caniedydd 1895, (lle ceir diwygiadau gwahanol). Aeth Morris Davies yn ôl at Dwy Farwnad a chynnwys penillion 2, 3 a 4 Hugh Jones yn emyn cyfan, rhif 406, yn Hosanna 1860; cadwodd, er hynny, gliriodd feiau Robert Jones yn lle flotiodd feia y gwreiddiol. O gasgliad Morris Davies codwyd y pennill olaf yn unig i Lyfr Hymnau 1869 y Methodistiaid. Bangor. BEDWYR LEWIS JONES EMYN HINDWAIDD Cyfododd y wawr, O! Bererin cod, A gosod o'th flaen yn uchel dy nod; Ar goll mae enaid a bery mewn hun, Cei hedd o bai gorchwyl â thi'n gytûn. O! deffro, rho heibio dy lesgedd trwm, Na fydd fel cysgadur â'th fyd yn llwm. Dy Grewr a roes iti wawrddydd hael, A thithau'n segur, yn ddioglyd wael. O! f'enaid, tor o'th hualau yn rhydd, A lladd ar dy bechod drwy'r newydd ddydd. Pa fudd yw dy ddagrau ar ddeulin mwy, A thithau yn gwaedu o'th greulyd glwy' ? Gwna heddiw y dasg a ohiriaist cyd, Cyn cilio o'r dydd dros ddiadlam ryd. Daw adar rhaib i draflyncu dy hedd Cyn profi ohonot arlwy y wledd. Cyf. D. E. Williams.