Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Modedern, 7 Ionawr, 1875. Y mae dwy o'i gerddi wedi'u copïo gan Mrs. GrifBth — "Y Ddwy Briodferch" (a'r dyddiad copïo Ebrill, 1874), a'r ail allan o'r Herald Cymraeg, 8 Ionawr, 1875— "Y Ferch a'r Lloer." Ni welaf fod y gân gyntaf yng nghasgliad llawn gwaith Mynyddog. Undebwr, neu Dori oedd Morswyn o ran daliadau gwleidyddol. Y mae un letter-heading yn darllen "Porthamel, Llanfairpwll"- cyfeiriad yr Arglwydd Boston, a'r dyddiad yw 10 Tachwedd, 1874. Diddorol fyddai gwybod cynnwys y llythyr hwn! Ceir hefyd luniau Morswyn a'i wraig a'u teuluoedd, ac olion blodau a wisgwyd gan y ddau. Y mae cofnod ar dudalen tua diwedd yr Albwm — "Morswyn mewn hiraeth dwys Mawrth 18, 1893." Bu farw 10 Awst, 1893, yn 43 mlwydd oed. Nid oedd Morswyn yn fardd mawr, ond yn ei emyn llwyddodd i 'daro deuddeg,' a chydiodd yr emyn ynom fel cenedl. Y mae dylanwad emyn bydenwog Toplady yn amlwg arno. Craig yn y tir a welodd yr emynydd Saesneg; craig yn y môr neu ar lan y môr a welodd y Cymro-ger bae prydferth Porthdafarch, rhwng Ynys Lawd a Bae Trearddur. Gyda Jane Hughes, Rhyd-wyn a William Thomas, Caergybi (awdur "Pan ddelo'r pererinion/I gwrddyd yn y nef") gellir ystyried Morswyn ymysg mân emynwyr Môn. Caergybi. Llewelyn Jones Y CYFARFOD BLYNYDDOL Dydd Mercher yr Eisteddfod am 10.30 a.m., yng Nghapel Ebeneser, Wrecsam. Cadeirydd: Dr. E. D. Jones. Anerchiad: Emynwyr Bro'r Eisteddfod," gan y Parch. W. ElFION POWELL, B.A., B.D. Cyfarfod Busnes i ddilyn. Cyferfydd Pwyllgor y Gymdeithas am 10 a.m. yn y Capel.