Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

1. Emyn o waith Daniel Ddu o Geredigion. Ceir yr "Hymn" a ganlyn yng nghyfrol Daniel Ddu o Geredigion, Gwinllan y Bardd (Llanymddyfri, 1831), t. 390: Hymn wedi ei haddasu at dôn, o eiddo D. J. Morgan, o Lechryd, Ceredigion, yr hon dôn a enwir Waterloo. Y Nefol Air sy'n fywiol faeth, Derbyniwn ef yn fwyn; 0 hudawl faglau pechod caeth Mae hwn yn ceisio'n dwyn; Mae hwn yn gwa'dd pechadur trist O'i anllad ffvrdd yn ôl; I hwn yn ufudd dyro glust, Ti was afradlon ffôl. Yn denu dyn mae llawer twyll I rodio 'mhell o Iwybrau pwyll; I adael heddwch tv ei Dad, A chrwydro'n wyllt mewn anial wlad; Ond Gair ein Duw sy'n addysg rydd I'n harwain mewn goleuni dydd; Rhown ein myfyrdod arno'n Hawn, Ac yna gwir orfoledd cawn. Gair yw a saif yn oll o'i nerth, Yn ddim pan fyddo'r byd; Saif hwn er pob chwyldroad certh Yn gadarn oll i gyd: Hudoliaeth byd a'i bleser gau A dderfydd cyn bo hir; Yr amser sydd yn agoshâu Na phriser ond y gwir. O! rhoddwn oll ein bryd a'n cais I wrando'r dwyfol dirion lais; Yn arwain mai i fryniau'r hedd, Lle gyda Duw mae bythawl wledd; Lle'n llifo mae goffoledd mad, Heb ddim ar feth trwy gyrrau'r wlad: Lle nad oes gelyn, cur, na chlwy', Na 'madael byth a'n gilydd mwy. (" Rhyw bythefnos ar ôl Eisteddfod yn Aberteifi daeth Dafydd Miles ataf gyda'r nodyn diddorol hwn, y daeth ar ei draws yn hollol ddam- weiniol wedi i mi fod yn sôn am Ddafydd Siencyn Morgan wrtho, Harri Williams.") 2. Emyn Thomas Williams (Eos Gwynfa). Yn Llyfr Emynaur Methodistiaid (1927), rhif 729, a Caniedydd (1960) yr Annibynwyr, NODIADAU CAIR Duw DAFYDD MILES.