Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

3. Casgliad o Emynau George Rees. Fe gofir am George Rees (1873-1950) fel awdur yr emyn gwych "O! Fab y Dyn, Eneiniog Duw, fy Mrawd," etc., ac fel awdur nifer o englynion cofiadwy a wobrwywyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyfansoddodd rai emynau eraill hefyd, a cheir chwech o'r rheini yn Llawlyfr Moliant (1952) y Bedyddwyr, gan gynnwys ei efelychiad o emyn John Bowring, "In the Cross of Christ I glory." Y llynedd cyhoeddwyd 'O! Fab y Dyn,' Emynau a Cherddi Caeth George Rees, wedi eu dethol gan Mr. Brynley F. Roberts, yn llyfryn destlus (tt. 64, clawr papur, ni nodir y pris) gan Argraffty'r M.C., Caernarfon. Dethol- wyd 23ain o emynau a throsiadau George Rees yn y casgliad hwn. Mewn atodiad fe nodir rhai emynau eraill a ymddangosodd mewn cylchgronau ond nas cynhwysir yn y detholiad yma. "Mae'n fwy na thebyg fod rhagor ar ôl," meddai Mr. Roberts yn y rhagair, "a'm gobaith yw y daw eraill i lanw'r bylchau." Y mae yn fy meddiant daflen fechan (6%" x 4%") a gyhoeddwyd am swllt y cant gan Lyfrfa'r M.C., sef "Clodforwn Di, O! Iesu"—emyn o fawl i'r Ysgol Sul a gyhoeddwyd (mi dybiaf) yn 1935, adeg dathlu 150 yr Ysgoi-Sul yng Nghymru (gw. Mawl yr Ifanc (1968) t. 4). Yn ddiweddar, dangos- odd y Parch. Griffith Owen, Hen Golwyn, imi dudalen o hen rifyn Trysorfa y Plant a gynhwysai drosiad eithaf da o'r eiddo George Rees o emyn S. Baring-Gould, "Now the day is over." Ceir rhagymadrodd cryno i'r gyfrol sy'n cynnwys bywgraffiad byr, trafodaeth ar "O! Fab y Dyn," a materion eraill ynglyn â George Rees fel emynydd a bardd. Ceir yma ddau drosiad o "O Fab y Dyn," y naill gan yr emynydd ei hun a'r llall gan Elfed. (Gwelais un hefyd, yn Y Goleuad rywbryd, o waith David Wynne (Ap Tudur), Llansannan.) Ceir yma hefyd fanylion am 'lyfryddiaeth' pob un o'r emynau, sy'n gymwynas ddef- nyddiol iawn. Cymeradwyaf y gyfrol fechan hon yn galonnog i holl aelodau Cymdeithas Emynau Cymru, gan hyderu y daw rhagor o'i bath o'r wasg yn v dyfodol. G.M.R. 4. Cyfeiriadur Emynyddol. Fe gyhoeddwyd eleni, gan Gym- deithas Emynau Prydain Fawr ac Iwerddon lyfr clawr-papur def- nyddiol Brítish Hymn Writers and Composers: A Check-list (tt.96, pris £ 2.40 drwy'r post), gan Andrew J. Hayden a Robert F. Newton. Cynnwys y gyfrol yw rhestr faith o emynwyr a chyfan- soddwyr emyn-donau ynghyd â dyddiau eu mannau geni a marwol- aeth. Y mae vma dros 2,000 π enwau gwŷr a merched y ceir eu