Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

cynnyrch ym mhrif gasgliadau emynyddol Prydain o 1901 hyd 1975. Nodir y casgliadau — 33ain ohonynt-ond nid oes yr un casgliad Cymraeg yn eu plith. Sylwais, wrth fynd drwy restr yr emynwyr, fod 59 o Gymry yn eu plith, ac ambell enw yn ddigon adnabyddus. Y mae nifer o'n prif emynwyr heb eu rhestru, megis Morgan Rhys, Dafydd William, Thomas William, John Williams, David Charles (ieu.), Robert ap Gwilym Ddu, Pedr Fardd, Ieuan Glan Geirionnydd, etc. Blynydd- oedd Ann Grifiiths yw 1868-1927 Ac ni wyr yr awduron ymhle y y ganwyd hi nac ymhle y bu farw. Yn wir, y mae bylchau ym mannau geni a marw amryw o'r Cymry y buasai'n ddigon hawdd eu llenwi petasai'r awduron wedi ymgynghori â Chymry cyfarwydd yn y maes. Rhyfedd yw gweld enw R. Williams Parry ymhlith yr emynwyr Ymhlith y cyfansoddwyr ceir tua 55 o Gymry, ond y mae bylch- au yn y rhestr yma eto, megis T. Hopkin Evans, Tom Carrington Daniel Protheroe, W. T. Rees (Alaw Ddu), Richard Ellis, John Hughes ('Calon Lân'), etc. Ond at ei gilydd y mae'r llyfr yn gyf- eiriadur defnyddiol iawn, ac yn werth ei bwrcasu i'w roi yn ymyl geiriadur emynyddol llafurfawr John Julian. Ychwanegir llawer o enwau, a chywirir rhai o ddyddiadau Julian. G.M.R. EMYNAU NEWYDD ? Yn ystod gaeaf 1974 cyfarfyddais, yn fy swydd fel ysgrifennydd Cymdeithas Emynau Saesneg, â grwp bach o gyfeillion yng Nghaerdydd i drafod cynllun i gynnal cynhadledd flynyddol y Gymdeithas yn y brifddinas, ac yn arbennig i baratoi'r Act of Praise a gynhelir yn gyhoeddus yn ystod y gynhadledd. Dangosais gopïau o'r llyfryn oedd gennym ar gyfer y gwasanaeth, ac edrych yn syn a wnaeth rhai o'r bobl. Ydych chi mewn gwirionedd yn disgwyl i bobl ddod at ei gilydd i ganu emynau newydd? gofyn- nodd rhywun. Dyma yn union beth a ddisgwyliwn yn Lloegr. 'Rydym wedi cael cyfarfodydd llewyrchus iawn. Ond yr oedd yn anodd i Gymro goelio hynny. Agwedd meddwl fel hyn, debygaf i, fu'n achos i ni fethu cael llawer o ateb i'n hapêl, yn ystod dathlu daucanmlwyddiant Ann Griffiths, am emynau newydd. Nid ydyw'n pobl wedi teimlo'r angen amdanynt eto. Nid ydynt wedi dechrau gofyn am emynau