Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dydd," gan gywiro rhai camsyniadau, trafod agweddau at y Meth- odistiaid a phenderfyniad Ann i ymuno â nhw, ynghyd â gair i ddiweddu ar Ann Griffiths a'i hemynau. Cyfeiriais at y ddarlith hon o'r blaen (gw. Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y M.C., Hydref, 1976, t. 103). Fe'i traddodwyd yn wreiddiol ar radio'r BBC a'i chyhoeddi wedyn yn rhifyn Gorffennaf, 1976 o Taliesin. Ac felly nid ymhelaethaf arni ymhellach. Yn sicr, y mae'r gyfrol hon yn gyfraniad go bwysig at yr astud- iaethau a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar fywyd a gwaith y ferch o Ddolwar Fach, "y danbaid, fendigaid Ann," chwedl J. T. Job. Eithr nid yw'r gair olaf wedi ei lefaru hyd yma, y mae'n siŵr. — Golygydd.) CYMDEITHAS EMYNAU CYMRU Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas yn y Tabernacl (M.C.), Aberteifi, fore Mercher, 4 Awst, 1976. Cyfarfu'r pwyllgor hanner awr cyn y cyfarfod, a'r Llywydd, yr Ysgrifennydd, y Trys- orydd, Golygydd y Bwletin, Alun Davies a'r Prifathro D. Eirwyn Morgan yn bresennol. Cadarnhawyd mai'r Parch. Eifìon Powell sydd i draddodi'r ddarlith ym Mhrifwyl Wrecsam yn 1977 ar "Emynwyr Bro'r Eisteddfod." Fe'i hetholwyd ef ynghyd â'r Parch. Ddr. Llewelyn Jones, Gareth O. Watts a'r Dr. Hywel M. Griffiths yn aelodau o Bwyllgor y Gymdeithas. Rhoes Golygydd y Bwletin rag-rybudd y bwriadai roi heibio ei swydd yn Awst, 1977. Cytun- odd Richard Elfyn Jones, Caerdydd, i draddodi darlith 1978 ar "Gyfraniad E. T. Davies a Caradog Roberts." Dechreuwyd y Cyfarfod Blynyddol gyda chanu'r emyn "Iesu, Iesu, 'rwyt Ti'n ddigon" ar dôn John Thomas, sef Bhencefn. Yna cyflwynodd y Parch. Athro Harri Williams ffrwyth ei ymchwil ar "Gerddorion y Cysegr ym Mro'r Eisteddfod." Canolbwyntiodd ar y ddau gerddor-Dafydd Siencyn Morgan a John Thomas, y naill wedi ei eni yn Llangrannog a'r llall ym Mlaenannerch. Caed ganddo ymdriniaeth fywiog ar weithgarwch y ddeuddyn hyn, ac at hynny amlinellodd ddatblygiad canu'r cysegr yng Nghymru yn ystod y 19eg ganrif. Cynorthwywyd y darlithydd gan Mrs. Terry Thomas, a chwaraeodd rai o weithiau'r cerddorion ar yr organ. Erbyn hyn y mae pum rhifyn y Bwletin allan o brint. Gellir cael rhifvnnau 6-10 am 50c. y rhifyn oddi wrth y Parch. Dafydd Wvn Wiíiam, Tresalem, Pontyberem, Dyfed. D.W.W. (Ysg.)