Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ati i lunio rhai o'r emynau, ag ati, ar chwâl yn amryw o'r hen gylchgronau, ac fe ailadroddir nifer o'r hanesion hynny wrth gwrs mewn cyfrolau buddiol megis eiddo W. A. Griffiths, John Thickens, ac eraill. Mae'n hanfodol bwysig bod y sawl yr ymddiriedir iddo'r gwaith o drefnu canu mawl ar y Sul yn ymgydnabod â'r tarddellau hyn, onid e ffe â'r canu yn anniben ac yn anneallus. Cyn y llwyddir i briodi emyn â thôn addas, mae gwybod rhywbeth am emynydd neu gyfansoddwr hefyd yn help mawr ambell waith i'r addolwyr, ac yn gyfrwng 'i ddyfnhau'r mawl a pherffeithio'r addoliad'. Onid yw gwybod mai gof gwlad oedd Thomas Lewis, Talyllychau, yn gymorth inni fedru gweld rhywbeth o'r newydd yn ei emyn 'Wrth gofio'i riddfannau'n yr ardd', a'r un modd onid yw gwybod nad ysgrifennodd David Charles (yr hynaf) yr un emyn cyn cyrraedd 45 oed yn help inni sylweddoli mai cynhyrchion gwr wedi aeddfedu'n ysbrydol yw ei holl emynau? Yr un modd ym maes yr emyn-donau, onid yw gwybod rhywbeth o hanes personol Megan Watts Hughes, y wraig ryfeddol honno o Ddowlais, ac yn arbennig fel y bu iddi gefnu ar yrfa broffesiynol ddisglair a sefydlu cartref i blant diymgeledd yn Llundain, yn gyfrwng inni weld rhywbeth o'r newydd yn ei thôn fawreddog 'Wilton Square', yn enwedig pan briodir y dôn honno â'r emyn 'O'th flaen, O Dduw, 'rwy'n dyfod' gan Thomas William, Bethesda'r Fro? Daeth yr amser inni sylweddoli bod rhywbeth pwysicach o lawer na 'mesur' y dylid ei ystyried wrth dewis tôn ar gyfer emyn. Fe ellid canu emyn mawr Maes-y-plwm, 'Mae'n llond y nefoedd' ar 'Drink to me only', a hefyd 'Cof am y cyfiawn Iesu' ar 'Home sweet home', ond y mae'n anodd meddwl am neb ystyriol a fyddai'n gwneud peth felly. Nid yw'n ddiogel bob tro ychwaith i briodi emyn â thôn sy'n digwydd bod yn gyfleus o dan, uwchben, neu gyferbyn â'r emyn hwnnw. Y ffaith yw bod amgylchiadau wedi newid yn fawr er pan luniwyd rhai o'n hemyn-donau cyfarwydd, a bod amryw ohonynt yn alawon a gyfansoddwyd ar gyfer cynull- eidfaoedd mawrion o dri neu bedwar cant, yn hytrach nag ar gyfer rhyw hanner dwsin o addolwyr yn Rehoboth neu yng Nghaersalem ar fore Sul. 'Cenwch yn llafar i'r Arglwydd meddai'r Salmydd, ac ar yr un gwynt megis fe brysura i ychwanegu mai gorau oll os gellir canu mawl 'yn ddeallus'. Ac fe all cynulleidfa fechan iawn ar y Sul,- yn wir fe all pedwarawd,­ lwyddo i wneud hynny. Bangor. HUW WILLIAMS 'Rwy'n gobeithio na fydd y Methodistiaid a'r Wesleaid yn dilyn eu dull, yn 1927, o roi 'Talfyriadau Awduriaeth' ar ôl pob emyn. Bydd y cenedlaethau ifanc a ddaw yn ofni mai dyn o uffern dân oedd H.E.L. Howell Elfed Lewis (Elfed)! Trebor Lloyd Evans yn Y Tyst, 5 Gorff. 1979.