Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Emynwyr Tref Caernarfon Emynwyr Tref Caernaforí oedd y testun a osodwyd ar gyfer Darlith Flynyddol y Gymdeithas am 1979, a derbyniodd y Parchedig John Roberts, Llanfwrog, ein gwahoddiad i draethu arno. Roedd yn ddrwg calon gan bawb ohonom ddeall na fyddai Mr. Roberts yn medru ein hannerch oherwydd afiechyd, ac rydym yn ddiolchgar i Mr Huw Williams am lenwVr bwlch mor ddeheuig ar fyr rybudd Mae'n dda gennym glywed bod Mr. Roberts cryn dipyn yn well erbyn hyn, a diolchwn iddo am fwrw ati i baratoi ei ddarlith ar gyfer y Bwletin. Y mae'r testun yn un braidd yn gyfyngedig, ac nid yw'n hawdd penderfynu ar restr deilwng o emynwyr tref Caernarfon. Byddai emynwyr tref Caernarfon a'r cylch yn ehangu cryn dipyn arno, ond y mae'n rhaid wynebu'r pwnc fel y rhoddwyd ef i'w drafod. Cwestiwn arall nad yw'n hawdd i'w ateb yw, Pwy a ddylid eu hystyried fel emynwyr y dref ? A oes rhaid i'r emynwyr fod wedi eu geni ynddi? Rhestr fechan iawn, rwy'n ofni, a wnai un felly, nid yn unig o ran rhif, ond hefyd o ran ansawdd eu hemynau. Ganed Robert Parry (Robin Ddu Eryri; 1804-92) ac R. A. Williams (Berw; 1854-1926), yn nhref Caernarfon, ac er i'r ddau wneud emynau, prin y gellir eu galw yn emynwyr. Y mae gan yr olaf a enwyd saith o emynau yn y gyfrol Emynau Hen a Newydd (Bangor, 1954), ond dim ond am y tair blynedd cyntaf o'i einioes y bu ef byw yng Nghaernarfon. Magwyd ef ar ôl hynny gan ei fodryb ym Mhentre- berw, Ynys Môn. Bardd a beirniad eisteddfodol ydoedd yn bennaf, a rhan o'i anfarwoldeb fel beirniad yn y Genedlaethol ydyw ei fod yn un o'r tri a feirniadai'r awdlau yn Eisteddfod Bae Colwyn yn 1910. Rhai a ddaeth i'r dref i fyw,- dynion dwad', fel y'i gelwir,— yw emynwyr tref Caernarfon. Gellir gwneud rhestr weddol hir o'r 'dynion dwad' hyn, ond am ba hyd y mae'n ofynnol i rai o'r fath aros yn y dref i gael eu hystyried fel ei thrigolion ? A chwestiwn pur bwysig, wrth gwrs, ydyw'r un, A fu emynwyr o gwbl yn byw yn yr hen dref? Er enghraifft, nid oes gan y diweddar Gildas Tibbott yr un enw o Gaernarfon yn ei draethawd M.A., Emynwyr Gogledd Cymru hyd y flwyddyn 1800 (Aberystwyth, 1926). A phan soniais wrth gyfaill am y testun dan sylw, fe ofynnodd, 'Pwy sy gennych heblaw Meigant?' Pe bai'r testun yn gofyn am wyr y wasg, byddai'r stori'n wahanol iawn. Neu pe gofynnid am hanes cyhoeddwyr llyfrau emynau, fe geid llawer iawn mwy o ddeunydd i'w drafod, nag wrth drafod cyfansoddwyr emynau. Câi Hugh Humphreys, a anwyd yng Nghaernarfon yn 1817 ac a dreuliodd ei oes yn y dref, le anrhydeddus ymhlith cyhoeddwyr llyfrau emynau. Bu ef farw yn 1896, ac fe'i claddwyd yn Llanbeblig. Nid yw'n hawdd penderfynu pa bryd y cafodd emynydd weledig- aeth, neu ei ysbrydoli, i gyfansoddi emyn. Os mai ar ganol Stryd Llyn y cafodd 'emynydd' ei gyffroi i ysgrifennu emyn, er iddo fod yn byw ymhell o'r dref, ni fyddai'n anodd ei hawlio fel un o emynwyr tref Caernarfon, debygwn i. Fe ddigwyddodd rhywbeth tebyg i hyn yn hanes emyn ardderchog John Davies (Gwyneddon; 1832-1904):