Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr Arglwydd yw fy Mugail da, Diwalla f'eisiau i Rhydd orffwys im mewn porfa fras, Caf rodio'n hedd y lli. Un o ragflaenwyr y Parch. Ieuan Jones fel gweinidog eglwys Salem, ac un a wnaeth emyn a ddeil yn boblogaidd er pan gyfan- soddwyd ef yn 1886, a hynny yn nhref Caernarfon, yw'r Dr. E. Herber Evans (1836-96). Nid emynydd oedd Herber ond pregethwr a phrifathro coleg. Er hynny, gwnaeth un emyn 0 leiaf sy'n mynnu ei le ym mhob casgliad o emynau. Y mae 'Dal fi'n agos at yr Iesu i'w weld yn emyn o dri phennill cyflawn yn y llyfrau emynau a ddefnyddir heddiw gan y Methodistiaid (624), yr Annibynwyr (Y Caniedydd, 435), y Bedyddwyr (Y Llawlyfr Moliant Newydd, 581), a'r Eglwys yng Nghymru (Emynaú'r Eglwys, 372). Mae'n bosibl ei fod mewn casgliadau eraill nad ydynt yn adnabyddus i mi. Fe ymddangosodd yr emyn yn y Ле cyntaf yn Y Dysgedydd (Ebrill 1886) ac 'Awdur Anadnabyddus' odditano, ac yna yng Nghaniedydd Cynulleidfaol 1895. Ysgrifennodd Elfed gofiant i Herber Evans. Y mae Elfed yn dilyn hynt Herber Evans o flwyddyn i flwyddyn, ac am y flwyddyn 1886, gan gyfeirio at yr emyn dan sylw, fe ddywaid: 'Rhodd arall gafwyd ganddo y flwyddyn hon oedd emyn ar un o jestunau ei bregethau gynt -"Bydd goleuni yn yr hwyr." (tt. 221-2) a dyfynnir yr emyn yn llawn yno. Dywedir iddo gael ei gyfansoddi ar ôl cyfnod go gythryblus yn ei fywyd. Gwnaeth yr Athro Gwynedd Pierce, Caerdydd, sylw diddorol am emyn Herber mewn araith radio adeg yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon, Awst 1979. Pan gyfansoddodd ei emyn, yr oedd Herber Evans yn byw mewn ty yng Ngorllewin Twthill yn y dref ty yn wynebu tuag at fachlud haul dros Ynys Môn. Gwelir llewyrch gweddol olau'n aml pan fo'r haul yn disgyn ambell noson glir draw dros y gorwel pell. Llinell glo pob un o'r tri phennill yn yr emyn gan Herber yw, 'Bydd goleuni yn yr hwyr.' Gwelais y golau byr-ysbeidiol hwn fy hunan o lecyn arall yn y dref, 'a'm haul bron mynd i lawr'. Y mae emyn Herber yn un crefftus, ond y mae ynddo beth pwysicach fyth i emyn, sef teimlad sy'n cynhyrchu teimlad, a hwnnw'n deimlad gobeithiol. Llanfwrog. JOHN ROBERTS (I barhau) Da ydi cofio'r stori am rywun yn cwyno fod Haydn yn cyfansoddi miwsig rhy ysgafn ar gyfer y cysegr, rhy debyg i fiwsig dawns. A dyna ateb yr hen gerddor: 'Pan fydda i'n meddwl am ogoniant Duw, does gen i ddim rheolaeth dros y nodau. Maen nhw'n dawnsio ar y papur o mlaen i.' O na ddeuai'r ddawns a'r rhythmau gorfoleddus yn ôl i'n cerdd- oriaeth gysegredig, yn lle'r tonau lleddf ac araf a ddaeth mor nodweddiadol ohonom yng Nghymru. Silas' yn Y Goleuad, 7 Mawrth 1979.