Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Thomas Charles yr Emynydd Fel y gellid disgwyl, Calfinaidd yn hytrach na Lutheraidd oedd agwedd Thomas Charles at emynau, a barnu wrth rai o'i sylwadau ar y gair 'Hymn' yn y Geiriadur: Eilunaddoliaeth yw priodoli i Dduw mewn ffordd o addoliad yr hyn nid yw yn perthyn iddo, ond felly y gwelir mewn llawer o ganiadau a elwir hymnau a gyfansoddwyd, rai ohonynt, gan ddynion tywyll, cyfeiliornus ac a arferir yn addoliad y Duw mawr gan ddynion mor dywyll â hwythau Atgas a ffiaidd yw pob peth yn addoliad Duw nad ydyw, o ran mater a geíriau, yn dra agos ac yn hollol gytûn â iaith yr Ysgrythur Lân nid oes dim sothach cyfeiliornus yno, ond glân yw'r cwbl.* Y mae'n amlwg y byddai Thomas Charles yn teimlo'n fwy cysurus petai'r Methodistiaid Calfinaidd Cymreig wedi mabwysiadu arfer yr Eglwys Diwygiedig adeg y Diwygiad Protestannaidd ac ymgyfyngu i Salmau mydryddol wrth ganu yn y gynulleidfa. Ond yr oedd traddodiad emynyddol y Corff, wedi'i seilio ar athrylith gawraidd Pantycelyn, eisoes yn rhy gryf,'ac ni allai Charles ei wrthsefyll. Yn wir, pan fu unwaith yn gyfyng iawn arno, bu raid iddo yntau fynegi ei brofiad mewn emyn — yr unig un a ganodd, yn ôl pob golwg. Braidd yn grintach yw clod ei gyfaill Thomas Jones, Dinbych i'r emyn: Er nad oes ynddi [sic] lawer o ddisgleirdeb dawn prydyddol, y mae ei rhagoroldeb mewn hyder a gwresogrwydd duwiol yn ei gwneud yn deilwng o sylw neilltuol. Gallai fod wedi mentro bod yn haelach. Nid yw'r emyn yn annheilwng o gwbl o'i restru gyda goreuon cynnyrch ail reng yr emynwyr Methodistaidd, megis Thomas Jones ei hun a David Charles yr hynaf o Gaerfyrddin, brawd Thomas Charles. Aeth achlysur cyfansoddi'r emyn yn fuan yn rhan o lên gwerin Methodistiaeth. Fel yma yr adroddodd Lewis Edwards, a briodasai wyres i Thomas Charles, yr hanes: Yn fuan ar ôl dechrau'r gaeaf hwnnw [sc. 1799] wrth deithio ar noswaith oerlem tros fynydd Mignaint ar ei ddychweliad o sir Gaernarfon [er prysuro at wely cystudd nai bychan iddo], ymaflodd oerfel dwys ym mawd ei law aswy, yr hyn a barodd iddo ddolur maith a gofidus; a bu raid iddo yn y diwedd oddef ei thorri, neu'n hytrach ei chodi, ymaith. Yr oedd gweddïau aml yn yr achos, gan yr ystyrid ei fywyd mewn cryn enbydrwydd, a chofir hyd heddiw am eiriau hen weddiwr hynod o'r enw Richard Owen, yr hwn a ddadleuai gyda thaerineb a hyder; 'Pymtheng mlynedd yn ychwaneg, O Arglwydd! Yr ydym yn *[Gweler hefyd ei ragair i'w argraffià'd diwygiedig o gasgliad emynau Saesneg Philip OHver, A Collection of Hymns (Bala, 180R). Gol.]