Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HYDER PERERIN CYSTUDDIOL DYFAIS fawr tragwyddol gariad Ydyw'r iechydwriaeth lawn; Cyfamod hedd yw'i sylfaen gadarn, 'R hwn ni dderfydd byth mo'i ddawn; Dyma'r fan y gorffwys f'enaid, Dyma'r fan y bydda'i byw, Mewn tangnefedd pur, heddychol, 'Mhob rhyw stormydd gyda'm Duw. Syfled iechyd, syfled bywyd, Cnawd a chalon yn gytûri, Byth ni syfla amod heddwch, Hen gytundeb Tri yn Un; Dianwadal yw'r addewid, Cadarn byth yw cyngor Duw, Cysur cryf sy i'r neb a gredo Yn haeddiant Iesu gael byw. Bûm yn wyneb pob gorchymyn, Bûm yn wyneb angau glas; Gwelais lesu ar Galfaria Yn gwbwl wedi cario'r maes; Mewn cystuddiau 'r wyf yn dawel, Y fuddugoliaeth sydd o'm tu; Nid oes elyn 'wna im niwed, Mae'r ffordd yn rhydd i'r nefoedd fry. Pethau chwerwon sydd yn felys A'r twllwch sydd yn olau çlir; Mae 'nghystuddiau imi'n fuddiol, Ond darfyddant cyn bo hir; Cyfamod hedd 'bereiddia'r cwbwl, Cyfamod hedd a'm cwyd i'r 1an I gael gweled f'etifeddiaeth, A'i meddiannu yn y man. Gwelais 'chydig o'r ardaloedd 'R ochor draw i angau a'r bedd; Synnodd f!enaid yn yr olwg, Teimlais annherfynol hedd; Iesu 'brynodd imi'r cwbwl, Gwnaeth â'i waed anfeidrol lawn; Dyma rym fy enaid euog A fy nghysur dwyfol lläwn. Aberystwyth. r w Pwysleisiodd Thomas Charles o'r Bala mai 'trysorfa pob gwybod- aeth fuddiol ac anghenrheidiol yw yr Ysgrythurau Sanctaidd' gan ychwanegu 'Bpnus Textuàrius est bonus Theologus bod yn Ysgrythurwr da yw bod yn Ddiwinydd da.' Ac yn emynydd da, hefyd, meddaf finnau, yn enwedig mewn 'oes ddreng' fel hon. — Dyfnallt Morgan wrth feirniadu cystadleuaeth cyfansoddi emyn yn Y Tyst, 15 Tach. 1979. Wedi cefnu pob rhyw stormydd, A'r tonnau mawrion oll ynghyd, Tybiais fy mod yn y porthladd, Tu draw i holl ofìdiau'r byd. 'O! fy Nhad,' medd f'enaid egwan, 'A gaf fì ddyfod i dy.gôl, A chanu'n iach i bob rhyw bechod, A'm cystuddiau i gyd ar ôl ?' 'Hust! fy mhlentyn, taw, distawa, Gwybydd di mai Fi sydd Dduw; Ymdawela yn f'ewyllys, Cred i'm gofal tra fych byw; Os rhaid ymladd â gelynion Fi dy nerth 'fydd o dy blaid Er gwanned wyt, cei rym i sefyll A Fi'n gymorth wrth bob rhaid.' Bodlon ddigon, doed a ddelo, Ond dy gael Di imi'n Dduw; Rhoist dy Fab i brynu 'mywyd Trwy ddioddef marwol friw; Mi lecha'n dawel yn ei gysgod, Yn nghysgod haeddiant dwyfol glwy, Darfyddaf byth ag 011 sydd isod, Ac ymhyfrydaf ynot mwy. Edrych 'r wyf ar hynny beunydd, Ac yn hiraethu am yr awr Pan y derfydd im â phechod, Ac y caf roi 'meichiau 'lawr, Y caf ddihuno â dy ddelw, Pan gaf weld dy wyneb gwiw, Pan gaf foli byth heb dewi, A bod yn debyg i fy Nuw. Fy natur egwan sydd yn soddi Wrth deimlo prawf o'th ddwyfol hedd, Ac yn boddi gan ryfeddod Wrth edrych 'chydig ar dy wedd; O am gorff, a hwnnw'n rymus, I oddef pwys gogoniant Duw, Ac i'w foli beth heb dewi, A chydag Ef dragwyddol fyw. R. GERAINT GRUFFYDD